Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cefnogi cymunedau, pobl a busnesau ledled Gogledd Cymru, gan ymateb i flaenoriaethau a nodwyd yn lleol a helpu i sicrhau newid cadarnhaol ar draws y rhanbarth.
Gan weithio gyda phartneriaid a chymunedau, nododd y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ble y gallai’r buddsoddiad wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae cyfres newydd o ffilmiau yn dod â’r stori hon yn fyw, gan gyflwyno prosiectau, pobl a lleoedd o bob cwr o Ogledd Cymru ac amlygu effaith y buddsoddiad drwy themâu Cymuned a Lle, Pobl a Sgiliau, a Chefnogi Busnes Lleol.
Gwyliwch y ffilmiau a darganfod rhagor o straeon o bob cwr o Ogledd Cymru.
