Trosolwg

Trosolwg 2025/26

Mae’r estyniad i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2025/26 yn dal i flaenoriaethu

  • Cymunedau a Lle
  • Cefnogi Busnesau Lleol
  • Pobl a Sgiliau

Y tro hyn mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amlinellu cynllun uchelgeisiol ar gyfer newid sy’n canolbwyntio ar bum Cenhadaeth genedlaethol: amcanion uchelgeisiol, mesuradwy, hirdymor sy’n rhoi ymdeimlad cryf o ddiben i’r wlad.

 

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 3: Hawlio ein strydoedd yn ôl
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd
  • Cenhadaeth 5: Creu GIG sy’n addas i’r dyfodol

 

Ni fydd prosiectau bellach yn adrodd am weithgaredd o dan ymyriadau 2022-25. Yn hytrach ar gyfer 2025-26, mae Llywodraeth DU wedi cysylltu ymyriadau presennol â themâu a arweinir gan y Genhadaeth ar draws y tri maes blaenoriaeth: Cymunedau a Lle; Cefnogi Busnesau Lleol; a Phobl a Sgiliau

Bydd yr Cenadaethau yma yn cael eu gweithredu drwy themâu ac is themâu a arweinir gan genhadaeth.

Mae diweddariad i’r Nodyn Technegol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2025-26 i’w gael yma Nodyn Technegol

Mae Gwybodaeth ychwanegol sy’n cynnwys trosolwg o’r Gronfa ar gyfer 2025-26 I’w gael yma  UK Shared Prosperity Fund 2025-26: additional information

**nid yw’r linc yma ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd ar wefan Llywodraeth DU

Ar gyfer 2025-26 mae’n ofynnol i brosiectau unwaith eto gyflawni un neu fwy o allbynnau a chanlyniadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.  Mae’r rhestr o allbynnau a chanlyniadau wedi’i lleihau ar gyfer 2025-26 er mwyn symleiddio adrodd.

Mae CFfG Gogledd Cymru wedi ychwanegu at y rhestr a ddarperir gan Llywodraeth y DU i gynnwys manylion am y dystiolaeth sydd ei angen ar gyfer adrodd ac hawlio. 

Rhestr Allbynnau a Chanlyniadau a Rhestr Gofynion Tystiolaeth CFfG Gogledd Cymru 2025-26.xlsx

 

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Mae’r gronfa yn anelu at gyflawni hyn trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhaglen ‘Lluosi’ i wella rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gronfa.

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan y CFfGDU fynd i’r afael ag un, neu fwy, o’r 53 ymyriadau ar:

Rhaid i brosiectau hefyd gyflawni un neu fwy o’r allbynnau a’r canlyniadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.