Hoffem eich hysbysu am ymgynghoriad newydd gan Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn llywio cynllun buddsoddi newydd dros dair blynedd ar gyfer Cymru, ac mae ar agor i bob sefydliad ac unigolyn sydd â diddordeb. Mae hwn yn gyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at y broses gynllunio a rhannu eich barn ar flaenoriaethau buddsoddi yn y dyfodol.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, cynhelir gweithdai rhanbarthol ar-lein i randdeiliaid. Cynhelir gweithdy Gogledd Cymru ar 18 Tachwedd 2025, ac mae’r sesiwn yn cynnig cyfle i glywed mwy am y cynigion ac i rannu eich barn yn uniongyrchol â swyddogion Llywodraeth Cymru.

📅 Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 19 Rhagfyr 2025