Prosiectau

Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau a dderbyniodd gefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin yn ystod 2025-2026.

Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.

Conwy Conwy
Dinbych Dinbych
Fflint Fflint
Gwynedd Gwynedd
Wrecsam Wrecsam
Ynys Mon Ynys Môn
Wedi darganfod 75 prosiect
Tudalen 7 o 8

Pobl ifanc Ynys Môn – ‘Yn llwyddo gyda’u gilydd’

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £87,242.00
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun cefnogi disgyblion Ynys Môn sydd wedi eu hadnabod o fod yn segur wrth adael prif-lif drwy gwella sgiliau, llesiant a lleihau y risg iddynt fod yn NEET.

Ynys Mon

Potensial Sgiliau a Gwaith Pobl Gwynedd

Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £1,068,122.00
Crynodeb o’r prosiect: Cefnogi pobl ifanc ac oedolion ar draws Gwynedd i gyrraedd eu potensial personol.

Gwynedd

Prosiect Creu Coetir Sir Ddinbych

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £278,604.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect creu coetir estynedig yn parhau i ddatblygu ardaloedd o dir sy’n eiddo i’r cyngor yn Sir Ddinbych ar gyfer atafaelu carbon, gwell bioamrywiaeth a manteision iechyd a lles ar gyfer y gymuned.

Dinbych

Prosiect Gofal Plant ar Waith

Ymgeisydd: NDNA Cymru
Grant: £84,997.53
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect hwn yn anelu at gyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd o’r enw Childcare Works yng Nghonwy, gan recriwtio 11 o oedolion a phobl ifanc sy’n ddi-waith neu’n anweithgar yn economaidd ac sydd â diddordeb yn y sector Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC).

Conwy

Prosiect Lles Cymunedol

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £279,298.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yma’n cynnig gweithgareddau asesu ac ymgynghori yn lleol i wella iechyd, lles a chysylltiad yn y gymuned.

Conwy

Prosiect Natur er Budd Iechyd

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £256,423.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y Rhaglen Natur er budd Iechyd yn ceisio darparu cyfleoedd i helpu pobl i fyw bywyd iachach a mwy cyflawn trwy well mynediad i’r amgylchedd naturiol ar lefel leol.

Dinbych

Prosiect Pontio Cymunedau Môn

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £262,955.43
Crynodeb o’r prosiect: Prif nod y prosiect yw datblygu Ynys ddyfeisgar a gwydn, lle mae cymunedau’n gallu ymgysylltu a chynnwys mewn dylunio a darparu atebion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn seiliedig ar angen gwirioneddol.

Ynys Mon

Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref

Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £570,949.60
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect yw i gyflawni a rheoli 6 prosiect, wedi’u cynllunio i wella bywiogrwydd a hyfywedd 7 canol tref ledled Sir y Fflint drwy raglen fuddsoddi wedi’i dargedu.

Fflint

Rhaglen Welliannau Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas 2

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas
Grant: £493,867.49
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn anelu at gyflawni strategaeth 10 mlynedd y Parc Treftadaeth a’i weledigaeth i ddod yn un o’r deg cyrchfan orau yng Ngogledd Cymru.

Fflint

Sgiliau Cyflogwyr Sir y Fflint

Ymgeisydd: Coleg Cambria
Grant: £348,573.99
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cefnogi busnesau yn Sir y Fflint i uwchsgilio eu staff i gefnogi a datblygu eu busnes.

Fflint

Tudalen 7 o 8