Prosiectau

Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau a dderbyniodd gefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin yn ystod 2025-2026.

Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.

Conwy Conwy
Dinbych Dinbych
Fflint Fflint
Gwynedd Gwynedd
Wrecsam Wrecsam
Ynys Mon Ynys Môn
Wedi darganfod 75 prosiect
Tudalen 6 o 8

I2EM (Cyflwyniad i Beirianneg a Chynhyrchu)

Ymgeisydd: EESW Cymru
Grant: £49,920.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd prosiect i2EM (Cyflwyniad i Beirianneg a Chynhyrchu) yn cyflwyno gweithdai i bobl ifanc yn ysgolion uwchradd Conwy, i ddatblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith ar gyfer gyrfaoedd yn y sector STEM yn Gogledd Cymru.

Conwy

Iach ac Actif – Healthy and Actif

Ymgeisydd: Gogledd Cymru Actif
Grant: £260,538.00
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect yma yw i barhau ac ehangu ein menter seiliedig ar leoedd, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan gydlynwyr lleol mewn cymunedau sy’n wynebu’r anghydraddoldebau mwyaf i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a lles.

Dinbych
Fflint
Gwynedd
Ynys Mon

LEAP (Dysgu, Archwilio, Cyflawni, Perfformio)

Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £336,056.06
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn bwriadu darparu ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ei fuddiolwyr gan gynnwys NEETS, oedolion ifanc sydd wedi’u datgysylltu/wedi’u heithrio gan greu pecynnau cyfannol o gefnogaeth, ymgysylltu a dysgu gyda/heb achrediad.

Fflint

Lle Da – Rhaglen Llunio Lle

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £510,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen integredig o brosiectau, grantiau a gweithgareddau i gefnogi canol trefi, buddsoddiad busnes, a darpariaeth safleoedd ac adeiladau ar Ynys Môn.

Ynys Mon

Lle i Fyw

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £97,685.10
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect fydd yn cynllunio, trefnu a chynnal digwyddiadau sy’n cefnogi lles, darllen ac ysgrifennu er pleser a dysgu gydol oes. Byddwn yn prynu fan drydan sy’n hwyluso gweithgareddau, yn y gymuned a llyfrgelloedd.

Ynys Mon

Llwybrau i Gyflogaeth

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £548,053.01
Crynodeb o’r prosiect: Bydd Llwybrau i Gyflogaeth yn canolbwyntio ar gefnogi ac uwchsgilio unigolion 16+ oed i weithio tuag at/mynd i mewn i’r farchnad swyddi, neu ennill profiad a chymwysterau i ennill a chynnal gwaith o ansawdd gwell.

Conwy

Mentergarwch – Ynys Môn a Gwynedd

Ymgeisydd: Menter Môn
Grant: £543,593.97
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r Hwb Menter yn wasanaeth cymorth i gychwyn busnes yng Ngwynedd ac Ynys Môn, sy’n darparu cyngor busnes un-i-un, gweithdai, a chyfleoedd rhwydweithio.

Gwynedd
Ynys Mon

Môn Ymlaen 3

Ymgeisydd: MônCF
Grant: £499,534.32
Crynodeb o’r prosiect: Bydd MônCF yn darparu cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra ledled Ynys Môn, gan leihau diweithdra ac uwchsgilio preswylwyr drwy hyfforddiant, mentora, lleoliadau gwaith â thâl, a phartneriaethau cyflogwyr, gan wella rhagolygon economaidd a chefnogi busnesau lleol.

Ynys Mon

Mynediad at ein Treftadaeth

Ymgeisydd: Cyngor Sir Dinbych
Grant: £404,957.00
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect yma fydd gwella hygyrchedd, ymgysylltu a chynaliadwyedd mewn dau safle treftadaeth allweddol yn Rhuthun, gan gefnogi’r economi leol, defnydd cymunedol, a thwf twristiaeth ddiwylliannol.

Dinbych

Partneriaeth Sgiliau Treftadaeth

Ymgeisydd: The Little Learning Company Cyf
Grant: £284,001.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y Bartneriaeth Sgiliau Traddodiadol yn parhau i ennyn diddordeb cynulleidfa eang mewn ystod o brofiadau sy’n gysylltiedig â sgiliau traddodiadol. Eleni, bydd y ffocws ar uwchsgilio dysgwyr a chreu llwybrau dilyniant.

Dinbych

Tudalen 6 o 8