Prosiectau 25-26
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau a dderbyniodd gefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin yn ystod 2025-26.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 4 o 8
Cynllun Gwella Eiddo Canol Trefi
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £ 203,060.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn targedu eiddo gwag, blêr neu heb eu defnyddio yng nghanol trefi i ysgogi gwelliannau i’r amwynder gweledol, ysgogi buddsoddiad, cynyddu cyfleoedd cyflogaeth a gwella bywiogrwydd canol trefi Sir Ddinbych
Cynllun Rheoli Cyrchfan
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £ 147,900.00
Crynodeb o’r prosiect: Byddai’r prosiect hwn yn cynnwys y costau a ragwelir ar gyfer blynyddoedd 2025 a 2026, gan ddarparu gwasanaeth Streetscene â chapasiti a chyflenwadau ychwanegol nad ydynt ar gael nac wedi’u cyllidebu ar hyn o bryd gan fod hyn y tu allan i’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol.
Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd
Ymgeisydd: Prifysgol Bangor
Grant: £315,003.00
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun sy’n cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig a graddedigion i gael mynediad at sgiliau, arbenigedd a chyfleusterau Prifysgol Bangor.
Cyrchfan Werdd
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £ 610,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn gwella mynediad at fannau gwyrdd cyhoeddus a llwybrau troed gan gynyddu cyfleoedd i ddod i gysylltiad â natur a’r buddion lles ac iechyd a fydd yn deillio. Bydd cynefinoedd a seilwaith ymwelwyr hefyd yn cael eu gwella.
Cysylltu Pobl, Natur a Lleoedd
Ymgeisydd: Coed Lleol
Grant: £87,241.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd Coed Lleol yn gwella sgiliau, gwytnwch cymunedol a lles i’r rhai sy’n wynebu cyflogaeth rhwystrau drwy ddatblygu gweithgareddau a sgiliau dysgu awyr agored hygyrch, gwella coetiroedd a gwybodaeth am yr amgylchedd yn Ynys Môn.
Cysylltu’r Arfordir a Chefn Gwlad
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £238,652.40
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect yw cyflawni gwelliannau amgylcheddol a chodi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd naturiol drwy seilwaith gwyrdd, gwirfoddoli, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau.
Darpariaeth Ardaloedd Chwarae Hygyrch
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: 231,000
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r project hwn yn ceisio darparu ardaloedd chwarae hygyrch mewn lleoliadau strategol yn y sir. Ar hyn o bryd mae’r cynnig yn gyfyngedig ar gyfer chwarae hygyrch o fewn y sir a amlygwyd yn ystod archwiliad.
Datblygu a Chefnogi Talent
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £ 290,145.00
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect yw gwella iechyd a lles pobl yng Nghonwy drwy weithgareddau a chyfleusterau chwaraeon, y celfyddydau, addysg a chydnabod talent a gwirfoddolwyr.
Datblygu Rhaglen Dysgu Nofio
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £ 135,924.00
Crynodeb o’r prosiect: Er mwy gwella ymhellach y prosiect Dysgu nofio, Bydd y prosiect hwn yn gwella ansawdd ein haddysgu ac yn codi safonau gallu nofio plant. Bydd hyn yn ystod gwersi nofio ar ôl ysgol a hefyd gwersi nofio ysgol.
Diwyllesiant
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £988,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect i gefnogi lles trigolion, cymunedau, amgylchedd_x000D_
a busnesau Gwynedd.