Prosiectau 25-26
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau a dderbyniodd gefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin yn ystod 2025-26.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 3 o 8
Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint
Ymgeisydd: Cadwyn Clwyd Cyfyngedig
Grant: £ 463,393.00
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn darparu cymorth cofleidiol i leoliadau / cyfleusterau / mannau neu grwpiau sy’n eiddo i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith cymunedol a phrosiectau cymunedol.
Cronfa Allweddol Sector Wirfoddol Conwy
Ymgeisydd: Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy
Grant: £ 600,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cynnig cymorth ariannol, hyfforddiant i adeiladu capasiti ac ymchwil leol i gryfhau a datblygu’r trydydd sector yng Nghonwy ac i ddarparu tystiolaeth ar gyfer cyllid a buddsoddiad yn y dyfodol.
Cronfa Astudiaeth Ddichonoldeb Cyngor Sir Ddinbych
Ymgeisydd: Cyngor Sir Dinbych
Grant: 195,388.00
Crynodeb o’r prosiect: Cwblhau tair astudiaeth ddichonoldeb. Yn benodol, Astudiaeth Dichonoldeb Marina y Rhyl Cam 2, Astudiaeth Llety Symud Ymlaen Parc Busnes Llanelwy ac Astudiaeth Dichonoldeb Cam 2 Marchnad y Frenhines.
Cronfa Sector Wirfoddol Gwynedd
Ymgeisydd: Mantell Gwynedd
Grant: £ 650,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd Mantell Gwynedd yn derbyn cyllid ar gyfer gweinyddu Cronfa Sector Wirfoddol Gwynedd bydd yn ariannu amrywiaeth o brosiectau ar draws Gwynedd.
Cronfa Sir y Fflint
Ymgeisydd: Athur Teifi / Antur Cymru
Grant: £173,679.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu cyfraniad o 50% tuag at gost gosod technoleg lleihau carbon mewn busnesau yn Sir y Fflint, ac yn cyflwyno cynlluniau gweithredu lleihau carbon i gefnogi lleihau carbon a chynnig am gontractau.
Cronfa Wrecsam
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £ 7,304,247.00
Crynodeb o’r prosiect: Mae cronfa Wrecsam yn agored i fusnesau a sefydliadau sy’n cyflawni eu prosiect yn ardal cod post CBSW ac i drigolion Wrecsam. Byddai’r Gronfa Allweddol ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol ar gyfer grantiau rhwng £50,000 a £700,000 a bydd yn ariannu gweithgareddau sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau buddsoddi, themâu, is-themâu ac allbynnau a chanlyniadau rhaglen UKSPF 25-26. Bydd y Cyngor yn gweinyddu’r Gronfa Allweddol yn unol â’i drefniadau llywodraethu presennol ar gyfer rheoli cynlluniau grantiau.
Cryfder mewn Niferoedd
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £260,887.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect Cryfder mewn Niferoedd yn darparu ymyriadau a darpariaeth wedi’u targedu i gefnogi dysgwyr sy’n oedolion gyda’u sgiliau rhifedd, llythrennedd, ESOL a digidol. Cynnigir rhaglenni creadigol i ymgysylltu, cwblhau cyrsiau ac achredu lle bo hynny’n briodol.
Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
Ymgeisydd: Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd – Uchelgais Gogledd Cymru
Grant: £ 340,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen o brosiectau i wneud y mwyaf o fanteision Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
Cymunedau a Natur – Croeso Cynaliadwy i Ymwelwyr
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: 140,000
Crynodeb o’r prosiect: Darparu presenoldeb Ceidwad ar safleoedd ymwelwyr cefn gwlad allweddol sy’n gweld niferoedd uchel o ymwelwyr, darparu cyngor ac arweiniad cadarnhaol i ymwelwyr i leihau problemau gwrthdaro a gwella profiad ymwelwyr
Cynllun Grantiau Cymunedol DLL
Ymgeisydd: Hamdden Sir Ddinbych
Grant: 166,230.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd cynllun Grantiau Cymunedol DLL yn rhoi cyfle i sefydliadau a chlybiau llai yn Sir Ddinbych wneud cais am arian cyfalaf i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau lleol sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau a chwaraeon.