Hwb Menter: Cefnogi Entrepreneuriaeth yng Ngwynedd ac Ynys Môn

Enw Prosiect:

Hwb Menter Gwynedd a Môn

Awdurdodau Lleol:

Ynys Môn, Gwynedd

Sefydliad Arweiniol:

Menter Môn

 

Mae Hwb Menter yn cynnig cymorth i fusnesau ar draws Gwynedd ac Ynys Mon ers 2023. Mae’r   prosiect yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i fusnesau newydd a rhai ar gamau cynnar, gan gynnwys cyngor un-i-un, mannau cydweithio, gofodau ‘makerspace’, a’r rhaglen gyflymydd Miwtini.

Yn ogystal, darparwyd grantiau cychwyn busnes a chyngor arbenigol i fusnesau’r stryd fawr drwy raglen SMART Gwynedd a Môn, gan eu helpu i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella perfformiad.

Mae Hwb Menter wedi cefnogi cannoedd o fusnesau ac entrepreneuriaid uchelgeisiol, gan greu mentrau newydd a swyddi, a meithrin cymuned fusnes fywiog leol. Mae pwyslais y prosiect ar hygyrchedd, hunaniaeth leol, a chymorth ymarferol wedi cryfhau ecosystem entrepreneuriaeth y rhanbarth ac wedi annog arloesedd ar draws sectorau amrywiol.

Dilynwch y linc isod i ddarllen mwy am lwyddiannau’r prosiect