Cais am Newid

Beth yw Cais am Newid Prosiect?

Mae Cais am Newid Prosiect yn ffordd ffurfiol o ofyn am gymeradwyaeth i wneud newidiadau sylweddol i’ch prosiect. Mae’r newidiadau hyn yn rhai a allai effeithio ar eich Cytundeb Ariannu Grant. Mae’n rhaid eu cyflwyno i ni drwy eich Tîm CFfG Lleol neu Arweinydd Aml-sir.

 

Be sy’n cyfrif fel newid sylweddol?

Mae newidiadau sylweddol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Newidiadau i berchnogaeth y prosiect
  • Newidiadau i’r bartneriaeth sy’n effeithio ar gydweddiad strategol y prosiect
  • Lleihad o fwy na 20% yn yr Allbynnau/Canlyniadau
  • Lleihad o fwy na 20% yn y grant CFfGDU
  • Unrhyw gynnydd yn y grant CFfGDU
  • Unrhyw newid (cynnydd neu leihad) i werth Arian Cyfatebol
  • Ychwanegu pennawd gwariant newydd
  • Trosglwyddo mwy na 20% rhwng penawdau gwariant ac Is-themâu
  • Trosglwyddo cyllid rhwng cyfalaf a refeniw 
  • Ychwanegu neu dynnu Is-themâu 
  • Tynnu Allbynnau neu Ganlyniadau

Os nad ydych yn siŵr a yw eich newid yn un sylweddol, cysylltwch â’ch Tîm CFfG Lleol neu Arweinydd Aml-si yn gyntaf.

 

Beth am newidiadau gweinyddol bychan?

Gellir gofyn am fân newidiadau gweinyddol nad ydynt yn effeithio ar eich Cytundeb Ariannu Grant (ac nad ydynt wedi’u rhestru uchod) drwy eich adroddiad cynnydd a byddant yn cael e’u cymeradwyo drwy e-bost. Gall eich Tîm CFfG Lleol neu Arweinydd Aml-sir yn eich cynghori.

 

Pethau pwysig i’w gofio

Nid yw newidiadau’n cael eu cymeradwyo’n awtomatig. Rhaid trafod unrhyw newid gyda’ch cyswllt CFfG cyn cyflwyno cais.

Nid oes rheidrwydd ar Awdurdodau Lleol i gymeradwyo newidiadau. Byddant yn asesu’r cais cyn ei anfon atom.

Bydd pob cais yn cael ei adolygu’n fanwl. Mae penderfyniadau’n derfynol.

Bydd ffurflenni anghyflawn neu Atodiad B heb ei ddiweddaru yn achosi oedi.

Gall hawliadau gael eu gohirio tra bo’r cais yn cael ei ystyried.

Cewch ymateb ffurfiol o fewn 30 diwrnod calendr i gyflwyno’r cais i’r Tîm CFfG Rhanbarthol.

Sut mae newidiadau’n cael eu cymeradwyo?

  • Bydd newidiadau sylweddol yn cael eu cymeradwyo drwy llythyr amrywiad i’ch Cytundeb Ariannu Grant.
  • Bydd newidiadau gweinyddol bychan yn cael eu cymeradwyo drwy e-bost.

 

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth i gwblhau’r ffurflen, cysylltwch â’ch Tîm CFfG Lleol neu Arweinydd Aml-sir yn gyntaf.