Cais am Newid

Cais am Newid

Os bydd unrhyw newid i’ch prosiect sydd â’r potensial i effeithio ar ei gyflawniad neu ei ganlyniadau, cofiwch:

  • Cofnodi’r newid yn eich adroddiad cynnydd.
  • Cadarnhau a yw’r newid yn un sylweddol.
  • Trafod y newid gyda’ch tîm CfFG lleol neu’r arweinydd aml-sir cyn cymryd camau pellach.

 

Beth yw newid gweinyddol?

Mae newidiadau gweinyddol yn rhai ansylweddol, nad ydynt wedi’u rhestru isod a nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar y Cytundeb Cyllid Grant. 

 

Beth yw newid sylweddol?

Mae newidiadau sylweddol yn rhai sy’n gallu effeithio ar natur, cwmpas neu effaith y prosiect. Enghreifftiau’n cynnwys (nid yw’r rhestr hon yn gyflawn):

  • Newid ym mherchnogaeth y prosiect
  • Newid yn y bartneriaeth sy’n effeithio ar addasrwydd strategol
  • Gostyngiad o fwy na 20% mewn allbwn neu ganlyniad unigol
  • Gostyngiad o fwy na 20% yn y grant SPF
  • Cais am arian SPF ychwanegol
  • Unrhyw newid mewn arian cyfatebol
  • Newid o fwy na 20% rhwng penawdau gwariant ac is-thema (rhif S)
  • Trosglwyddo arian rhwng cyfalaf a refeniw
  • Ychwanegu neu dynnu is-thema SPF
  • Dileu unrhyw allbwn neu ganlyniad

 

Beth i’w wneud os oes newid sylweddol?

  1. Trafodwch y newid gyda’ch tîm CFfG lleol neu’r arweinydd aml-sir.
  2. Cwblhewch ffurflen Cais am Newid.
  3. Cyflwynwch y ffurflen