Prosiectau 25-26
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau a dderbyniodd gefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin yn ystod 2025-26.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 1 o 8
Prosiect Natur er Budd Iechyd
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £256,423.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y Rhaglen Natur er budd Iechyd yn ceisio darparu cyfleoedd i helpu pobl i fyw bywyd iachach a mwy cyflawn trwy well mynediad i’r amgylchedd naturiol ar lefel leol.
ADAPTS 2
Ymgeisydd: AMRC Cymru
Grant: £ 289,705.46
Crynodeb o’r prosiect: Mae ADAPTS 2 yn bwriadu parhau â’r gweithgareddau a gynigir yn y rhaglen flaenorol sy’n anelu at hwyluso mabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu uwch a strategaethau datgarboneiddio drwy ymyraethau ymchwil a datblygu a hyfforddiant cynhwysol. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar gefnogi 8 busnes gweithgynhyrchu dros gyfnod o 2 – 3 mis yr un.
Aros ar y Trywydd
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
Grant: £ 218,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar sylfeini llwyddiannus (ac etifeddiaeth) y prosiect blaenorol; canolbwyntio ar fwy o gyfleoedd gwirfoddoli, profiadau cwsmeriaid ac gwelliannau amgylcheddol.
Balchder Bro
Ymgeisydd: Menter Môn Cyf
Grant: £ 499,770.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gynnig cefnogaeth ymarferol ac ariannol i gymunedau ar draws
Ynys Môn, i barhau â gweithgareddau/gwasanaethau a sefydlwyd yn 2024, a datblygu syniadau o’r
newydd.
Cam o’r Neilltu
Ymgeisydd: Action for Children
Grant: £ 151,208.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn parhau i greu cyfleoedd amgen i ymgysylltu â grŵp o bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n droseddol neu wynebu trais, drwy ddarparu cefnogaeth un-i-un ledled Sir y Fflint.
Camau Cefnogol
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £ 809,379.21
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect Camau Cefnogol estynedig yn blaenoriaethu cymorth o ansawdd uchel i bobl fregus 16–25 oed
Camau Cefnogol Sir y Fflint
Ymgeisydd: Coleg Cambria
Grant: £ 274,096.75
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cefnogi’r dysgwyr mwyaf bregus yn Sir y Fflint gyda chymorth ychwanegol i’w helpu i aros yn y coleg a chyflawni eu cymwysterau
Canol Trefi- Gwynedd Ni
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £1,278,000.00
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect fydd i adfywio a gwella canol trefi Gwynedd.
Caru Cymru
Ymgeisydd: Cadwch Cymru’n Daclus
Grant: £ 74,872.00
Crynodeb o’r prosiect: Bydd Caru Cymru yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol, grwpiau cymunedol, sefydliadau a’r Awdurdodau lleol ac yn darparu cyfleoedd iddynt wella ansawdd amgylcheddol lleol er budd cymunedau lleol.
Cefnogaeth Arbenigol i Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru
Ymgeisydd: Cwmpas
Grant: £ 173,305.89
Crynodeb o’r prosiect: Cymorth busnes i fentrau cymdeithasol a’r rhai sy’n dechrau ar berchnogaeth gweithwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn.