Prosiect Peilot Seiliedig ar Le Gogledd Cymru yn Ennill Gwobr TPAS Cymru

Enw’r Prosiect:

Gogledd Cymru Hapus, Iach ac Actif

Awdurdodau Lleol:

Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn

Cyfanswm arian CFfGDU Gwynedd:

£521,000

Sefydliad Arweiniol:

Gogledd Cymru Actif

Mae un prosiect  Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Ngogledd Cymru—wedi’i gefnogi ar y cyd gan Gynghorau Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint a Sir Ddinbychwedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ei ddull arloesol o ymgysylltu â thenantiaid a chymunedau. 

 

Enillodd y prosiect Wobr Arfer Da TPAS Cymru 2025 yn y categori “Ymgysylltu â Thenantiaid mewn Menter Amgylcheddol”, gan ddathlu ei waith rhagorol yn Ninbych Uchaf ac Chlawdd Poncen (Corwen). 

Nod y Peilot Seiliedig ar Le, dan arweiniad rhanbarthol Gogledd Cymru Actif a chefnogaeth benodol yn Sir Ddinbych  gan Grŵp Cynefin Hwb Dinbych, Tai Sir Ddinbych, Gwasanaethau Cefn Gwlad, Gwasanaethau Ieuenctid Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Tîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Tîm Chwaraeon Cymunedol Hamdden Sir Dinbych Cyf,  oedd mynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol ac anghydraddoldebau iechyd drwy fabwysiadu dull a arweinwyd gan y gymuned, sy’n ystyried y system gyfan.

Gweithiodd cydlynwyr ym mhob awdurdod lleol cefnogol yn agos gyda thrigolion lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid traws-sector i gyd-ddylunio gweithgareddau a gwelliannau oedd yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau lleol. 

Cafodd y wobr ei dyfarnu am y modd y: 

Trawsnewidiwyd mannau segur yn asedau cymunedol bywiog, gan gynnwys gerddi, llwybrau cerdded a thraciau beicio. 

Darparwyd gweithgareddau cynhwysol wedi’u siapio gan drigolion—o ioga eistedd a theithiau cerdded teuluol i chwaraeon dan arweiniad pobl ifanc. 

Meithrinwyd perthnasoedd hirdymor a hyder, gan alluogi tenantiaid i arwain mentrau amgylcheddol ac iechyd. 

Lleihawyd rhwystrau i gymryd rhan drwy ddod â gwasanaethau fel archwiliadau clyw a thrin traed i’r gymuned. 

Effaith Ehangach ar Draws Gogledd Cymru 

Ar draws y pedair awdurdod a gymerodd ran: 

  • Mynychodd 195 o bobl sesiynau hyfforddi yn eu cymunedau. 
  • Crëwyd neu wellwyd 36 o gyfleusterau neu fannau cymunedol. 
  • Derbyniodd 118 o sefydliadau gymorth drwy’r peilot. 

Dim ond rhai o’r canlyniadau trawiadol yw’r rhain. Mae’r peilot hefyd wedi arwain at newid mewn canfyddiadau o allu lleol, grymuso arweinyddiaeth gymunedol, ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach ar draws y cymunedau a gefnogwyd. 

 

Dilynwch y ddolen isod i wylio a dysgu mwy am waith y prosiect ar draws y pedwar Sir.