Hawliadau
Canllawiau Cyflwyno Hawliadau CFfG:GC
Diben y Canllawiau isod ydy darparu proses gyson i gynorthwyo prosiectau i gyflwyno eu Hawliadau Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru. Defnyddiwch y grynodeb isod ochr yn ochr a’r Canllawiau Hawliadau.
Pwyntiau Allweddol
Dogfennau Angenrheidiol
- Ffurflen Hawlio Grant: Bydd Ffurflen Hawlio Grant unigryw i bob prosiect, yma byddwch yn adrodd ar thrafodion gwariant, allbynnau a chanlyniadau, risgiau, cynllun caffael a cofnod cynnydd.
- Adroddiad Cynnydd – Dylid cyflwyno Adroddiad Cynnydd ar gyfer bob hawliad hyd yn oed os nad oes gwariant.
📬 Cyflwyno Hawliadau
- Dylid anfon y ffurflenni drwy e-bost FfyniantGyffredinGogleddCymru@gwynedd.llyw.cym i’r tîm rhanbarthol erbyn y dyddiad cau.
- Byddwn yn anelu i brosesu taliadau o fewn 10–15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn hawliad cyflawn.