Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd: Cefnogi Lles Meddwl a Chynhwysiant Cymdeithasol

Enw’r Prosiect:
Synnwyr Gweithio
Awdurdodau Lleol:
Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy
Sefydliad Arweiniol:
Canolfan Sain Golwg Arwyddo
Ailadeiladu hyder ar ôl PTSD a gorbryder
Ymunodd un cyfranogwr â’r rhaglen gyda gorbryder difrifol a PTSD. Er gwaethaf ei chyflawniadau academaidd , roedd hi’n teimlo’n ddatgysylltiedig oddi wrth gymdeithas a diffyg hyder i ymrwymo i weithgareddau. Dechreuodd ei thaith gyda cham dewr: cysylltu â’r tîm Synnwyr Gweithio mewn digwyddiad cyhoeddus.
Gyda chefnogaeth reolaidd gan Gynghorydd Cyflogaeth a Swyddog Lles, adeiladodd ei hyder a’i hannibyniaeth yn raddol:
- Cwblhaodd gwrs Coleg Digidol ar Delio â Phryder, a helpodd hi i reoli emosiynau ac a roddodd ymdeimlad o gyflawniad iddi.
- Mynychu sesiynau Cymraeg a chwblhau’r cwrs ‘Croeso’, gan wella ei gallu i ymgysylltu â’r gymuned leol.
- Gwirfoddolodd gydag ENGin, gan gefnogi dysgwr Wcreineg trwy Zoom – rôl a wellodd ei sgiliau digidol a’i hunan-werth.
Symudodd Tim * i Ogledd Cymru yn ystod cyfnod clo COVID-19, gan adael ei swydd a’i berthynas ar ôl. Cafodd yr ynysu a ddilynodd effaith ddofn ar ei iechyd meddwl. Hyd yn oed ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi, roedd Tim* yn cael trafferth gyda phryder cymdeithasol ac yn ei chael hi’n anodd gadael y tŷ.
Yn amharod i ddechrau ymgysylltu â’r rhaglen, cefnogwyd Tim* trwy ddull hyblyg ac empathig:
- Cafodd sicrwydd y byddai’r gefnogaeth yn cael ei deilwra i’w anghenion, gan ei helpu i deimlo’n ddiogel
- Yn raddol, dechreuodd ail-ymgysylltu â’r byd y tu allan a chymryd camau tuag at wella ei les a’i gyflogadwyedd.
- Wella eu lles meddyliol a’u gwytnwch emosiynol
- Codi hyder i fynd ar drywydd cyfleoedd newydd
- Lleihau ynysrwydd cymdeithasol trwy wirfoddoli, hyfforddiant a chymorth teithio.
- Datblygu sgiliau digidol, rhyngbersonol ac iaith
- Ailgysylltu â’u cymunedau ac adeiladu dyfodol mwy gobeithiol a disglair.
Mae’r straeon hyn yn dangos bod adferiad yn bosib pan fo’r gefnogaeth yn hyblyg, tosturiol ac yn lleol. Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl a Byd, rydym yn anrhydeddu dewrder yr unigolion hyn ac effaith rhaglenni cynhwysiol fel Synnwyr Gweithio. Dilynwch y ddolen isod os ydych yn chwilio am gefnogaeth.