Dementia Actif Môn – Creu Ynys Actif

Enw’r Prosiect:
Dementia Actif Môn
Awdurdod Lleol:
Ynys Môn
Fel rhan o raglen Creu Ynys Actif, derbyniodd Dementia Actif Môn gyllid trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Ynys Môn i sefydlu a chynnal canolfannau cymunedol ar draws y sir. Nod y prosiect oedd darparu llefydd diogel i bobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd â’u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chymdeithasol.
Sefydlwyd canolfannau yn Amlwch, Benllech, Llangefni a Chaergybi, gan gynnig sesiynau wythnosol sy’n cynnwys:
- Ymarferion symudedd a ffitrwydd
- Celf a chrefft
- Sgyrsiau gyda gweithwyr proffesiynol
Cafodd yr arian ei ddefnyddio i brynu offer a sicrhau bod pob sesiwn yn ddifyr ac yn hygyrch. Mae’r gweithgareddau wedi arwain at welliannau amlwg yng nghryfder corfforol, hyder a lles cyffredinol y cyfranogwyr.
Mae’r effaith gadarnhaol yn mynd y tu hwnt i’r bobl sy’n byw â dementia. Mae’n ymestyn i’w teuluoedd a’u gofalwyr, sy’n aml yn wynebu heriau emosiynol a chorfforol eu hunain. Mae tystiolaeth bod y sesiynau yn dod â phobl at ei gilydd, yn lleihau unigrwydd, ac yn cynnig rhwydwaith cymorth. Mae’n darparu lle diogel i ofalwyr gysylltu, rhannu cyngor a strategaethau ymdopi ac i wybod bod eu hanwyliaid yn cael eu gofalu amdanynt.
Heb gefnogaeth y gronfa drwy law Cyngor Sir Ynys Môn, byddai llawer yn cael trafferth, heb unrhyw le i fynd am gymorth. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi helpu i sicrhau bod llai o bobl yn wynebu dementia ar eu pennau eu hunain, gan gynnig gobaith a chefnogaeth pan fydd ei angen fwyaf.
Dyfyniadau gan Gyfranogwyr neu Rhanddeiliaid:
“Dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud heb y criw yma. Mae’n help mawr i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’n teuluoedd”
*Rhian o Amlwch wedi cael diagnosis o ddementia
*(enw wedi’i newid i ddogelu preifatrwydd)