Cynyddu Lefelau Cynhwysiant Digidol a Sgiliau Sylfaenol ar draws Sir Ddinbych

Enw’r Prosiect:
Cynyddu lefelau cynhwysiant digidol a Sgiliau sylfaenol ar draws Sir Ddinbych
Awdurdod Lleol:
Sir Ddinbych
Cyfanswm arian CFfGDU Sir Ddinbych:
£531,000
Sefydliad Arweiniol:
CWMPAS
Mae prosiect ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gynyddu cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol ar draws Sir Ddinbych wedi arwain at ganlyniadau ac effaith arbennig ar draws y gymuned.
Cyflwynodd CWMPAS gyfres gynhwysfawr o sesiynau hyfforddi, gweithdai, cyrsiau a sesiynau galw heibio mewn lleoliadau trefol a gwledig ac ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gan gydweithio’n agos â phartneriaid cymunedol lleol megis elusennau, grwpiau cymunedol a’r awdurdod lleol i wneud y mwyaf o’r arian oedd ar gael ac i ehangu manteision.
Ers mis Tachwedd 2023, mae’r prosiect wedi cefnogi dros 730 o unigolion i ddatblygu sgiliau digidol hanfodol, yn ei plith roedd:
- unigolyn a dderbyniodd gymorth i ailgydio yn ei hobi gerddorol drwy GarageBand
- Mam ifanc ddigartref yn cael mynediad at gyrsiau coleg
- Cyn-athrawes yn ennill hyder i ddefnyddio ffôn clyfar am y tro cyntaf.
Yn ogystal, fe lwyddodd 217 o unigolion i ennill cymhwyster digidol, gyda nifer ohonynt wedi symud ymlaen i waith neu hyfforddiant pellach.
Mae’r cymorth hwn wedi helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, meithrin hyder digidol, a hwyluso mynediad at wasanaethau allweddol megis iechyd, tai ac addysg.