Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy – Effaith Gadarnhaol ar draws Conwy

Enw’r Prosiect:

Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy 

Awdurdod Lleol:

Conwy

Sefydliad Arweiniol:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflawni’r Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol yn llwyddiannus, gan ddosbarthu dros £5 Miliwn, erbyn diwedd y cyfnod ariannu, o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i 70 o brosiectau sy’n canolbwyntio ar y gymuned ledled y sir. Mae’r gronfa wedi grymuso grwpiau lleol, cyrff cyhoeddus a mentrau i arwain ymdrechion adfywio sy’n gwella lles amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Conwy.

Mae’r prosiectau’n amrywio o adnewyddu amgueddfeydd a llyfrgelloedd i uwchraddio mannau chwarae, gerddi cymunedol, a mentrau diwylliannol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:

  • Amgueddfa Penmaenmawr: Ehangu rhaglenni celfyddydau a threftadaeth.
  • Llyfrgelloedd Llanfairfechan, Bae Cinmel & Uwchaled: Wedi’u trawsnewid yn ganolfannau cymunedol bywiog.
  • Dyfodol y Garrog, Dolgarrog: Creu gofod cymunedol newydd a gardd fwytadwy.
  • Clocswyr Conwy: Hyrwyddo dawns clogio Gymreig ymhlith pobl ifanc.
  • Mannau Chwarae: Uwchraddio 43 safle gyda wyneb newydd a chyfarpar.
  • Gardd Owain Glyndŵr: Trawsnewid man segur yn berllan gymunedol.

 

Mae’r prosiectau hyn wedi cael effaith uniongyrchol yng nghanol ein trefi a’n pentrefi – i gyd wedi’u gwireddu drwy weithio yn, ac gyda’n cymunedau.

 Y Cynghorydd Nigel Smith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae crynodeb llawn o lwyddiannau’r gornfa nawr ar gael i’w ddarllen ar wefan Cyngor Bwrdesitref Sirol Conwy. 

Cliciwch isod i ddarllen mwy