Creu Conwy yn Creu Sbardun
Enw Prosiect:
Creu’r Sbardun
Awdurdod Lleol:
Conwy
Sefydliad Arweiniol:
Gwasanaeth Diwylliant- Cyngor Bwrdesitref Sirol Conwy
Creu Conwy – sy’n parhau i 2025–26 fel Creu’r Sbardun – yw rhaglen drawsnewid diwylliannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cefnogir y gwaith gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan gysylltu cymunedau â’r celfyddydau, treftadaeth a chreadigrwydd, cryfhau’r sector diwylliannol lleol a gwella lles ar draws y sir.
Yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma
Yn ystod cyfnod cyflawni 2023–25, bu Creu Conwy yn gyfrifol am raglen ddiwylliannol eang ledled y sir a gyrhaeddodd filoedd o bobl, gan gryfhau ecosystem ddiwylliannol Conwy.
Uchafbwyntiau
- Dros 212 o ddigwyddiadau diwylliannol lleol ar draws pum tref fawr a’u cymunedau cyfagos.
- Digwyddiadau cerddoriaeth grassroots Winter Sounds, gan gefnogi artistiaid a lleoliadau lleol.
- Rhaglenni lles creadigol megis Taith a Creu Conwy Cymunedol, gan leihau unigrwydd a chynyddu hyder.
- Buddsoddi mewn seilwaith digwyddiadau symudol, gan alluogi digwyddiadau mwy hygyrch a chynhwysol.
- Cyfleoedd datblygu i artistiaid, gan gynnwys hyfforddiant a 7 prentisiaeth ddiwylliannol.
Yr Effaith
Adroddodd cyfranogwyr welliant sylweddol yn eu lles meddwl, mwy o hyder, cyfeillgarwch newydd, a diddordeb creadigol wedi ailgynnau. Roedd cymunedau’n dangos balchder cynyddol yn eu diwylliant lleol, cysylltiad cryfach â lle, a mwy o gyfleoedd i gymryd rhan.
Beth fydd yn digwydd yn 2025–26
Gyda chyllid UKSPF parhaus, bydd Creu’r Sbardun yn adeiladu ar y momentwm hwn ac yn darparu rhaglen uchelgeisiol newydd ar gyfer Conwy.
Datblygu’r Economi Ymwelwyr
- Cefnogi defnydd cymunedol ehangach o’r offer digwyddiadau symudol, gan alluogi digwyddiadau diogel a hygyrch.
- Ail-ddatblygu arddangosfeydd yng Nghanolfan Dreftadaeth Conwy drwy ymgynghoriad cymunedol ac ddehongliad newydd.
- Comisiynu tymor newydd o Winter Sounds, gan gefnogi lleoliadau a thalent amrywiol grassroots.
Cefnogi Iechyd a Lles
- Ehangu’r model Llyfrgelloedd fel Canolfannau Cymunedol i wella cynhwysiant digidol ac mynediad at wasanaethau.
- Ehangu’r rhaglen Taith: Creative Journeys to Wellbeing i gyrraedd mwy o oedolion sy’n profi heriau iechyd meddwl.
Datblygu Sgiliau a Gyrfaoedd Creadigol
- Cefnogi tri phrentis diwylliannol.
- Darparu datblygiad proffesiynol, rhwydweithio a hyfforddiant ar gyfer y sector creadigol a diwylliannol.
- Darparu Arts Award mewn ysgolion a dysgu achrededig Agored i oedolion mewn archifau a lleoliadau cymunedol.
Mae Creu’r Sbardun yn parhau i oleuo Conwy gyda gweithgarwch diwylliannol sy’n hybu lles, yn meithrin talent leol, yn cryfhau’r economi ymwelwyr ac yn dathlu’r lleoedd a’r bobl sy’n gwneud y sir mor unigryw.