Brandio
Mae brandio a chyhoeddusrwydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod agenda ehangach llywodraeth y DU yn cael ei hyrwyddo yn effeithiol a’i chydnabod, ac fel rhan o hynny, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU).
Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â’r holl ddeunyddiau cyfathrebu a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn gysylltiedig â gweithgarwch a ariennir – gan gynnwys print a chyhoeddiadau, a deunyddiau digidol ac electronig.
Mae cydymffurfio â gofynion brandio a chyhoeddusrwydd yn amod o Cytundeb Ariannu Grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru.
Canllaw Brandio a Chyhoeddusrwydd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Diweddariad Brandio – 04/12/2024
Dylai prosiectau CFfGDU ddefnyddio’r logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ sy’n cynnwys y Goron Tuduraidd a’r Arfbais a ddewiswyd gan Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III.
Nid yw gosod logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn newid. Nid ydym yn disgwyl i asedau presennol gyda’r logo blaenorol gael eu tynnu i lawr neu eu tynnu ond dylid eu diwygio pan fydd asedau’n cael eu diweddaru nesaf.
Diweddariad Brandio – 12/07/2024
Dylai prosiectau CFfGDU ddefnyddio’r logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn unig ac ni ddylech ddefnyddio’r logo ‘Wedi’i yrru gan Ffyniant Bro’ mwyach.
Nid yw gosod logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn newid. Nid ydym yn disgwyl i asedau presennol gyda’r brand Ffyniant Bro gael eu tynnu i lawr neu eu tynnu ond dylid eu diwygio pan fydd asedau’n cael eu diweddaru nesaf.
Gofynion penodol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Deunyddiau digidol gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
Gwefannau
Pan gyhoeddir manylion gweithgareddau’r Gronfa ar wefan, mae’n rhaid cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at y cyllid gan yr UKSPF fel a ganlyn:
‘Mae’r prosiect hwn wedi cael ei [ariannu/ariannu yn rhannol] gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’
Os yw’n ymarferol, dylai cyflawnwyr prosiectau gynnwys dolen i dudalen we Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig hefyd, yn ogystal â’r testun canlynol (y mae’n rhaid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer nodiadau i olygyddion):
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twg economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Cyfryngau cymdeithasol
Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo gweithgareddau’r UKSPF ar gyfryngau cymdeithasol fel X (Twitter), dylid defnyddio’r hashnod (#) canlynol #UKSPF.
Datganiadau i'r wasg
Rhaid i ddatganiadau i’r wasg gynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at CFfGDU ym mhrif gorff y datganiad i’r wasg fel a ganlyn:
“Mae’r [prosiect hwn/Enw’r prosiect] wedi cael £[RHOWCH Y SWM] gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.”
Mae’n rhaid hefyd defnyddio nodiadau penodedig i olygyddion yn yr holl weithgareddau â’r cyfryngau.
“Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twg economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.”
Gofynion Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru
Deunyddiau digidol gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
Logos yr Awdurdodau lleol
Dylai’r logos ymddangos fel ‘partner ariannu’, fel y dangosir yn y canllawiau “Funded by UK government Branding Manual“.