Arddangosfa Gelf Tecstilau yn Dathlu Hyder mewn Rhifedd

Enw’r Prosiect:
Llwybrau i Gyflogaeth
Awdurdod Lleol:
Conwy
Sefydliad Arweiniol:
Canolbwynt Cyflogaeth Conwy
Cafodd arddangosfa fywiog o gelf tecstilau a grewyd drwy brosiect Hyder yn dy Hyn ei chynnal yn swyddfa Coed Pella, Conwy yn ddiweddar. Roedd dros ugain darn yn dangos sut y bu i gyfranogwyr feithrin hyder mewn rhifedd drwy gelf geometrig, dan arweiniad yr artist tecstilau enwog Cefyn Burgess.
Wedi’i gyflwyno gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy ac wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r prosiect yn cefnogi unigolion ag amodau iechyd cymhleth ac anghenion cyflogaeth. Roedd y gweithdai creadigol yn cyfuno mynegiant artistig â sgiliau mathemategol ymarferol, gan archwilio symudiad, onglau a dilyniannau drwy deimlo a dylunio.
Dilynwch y ddolen isod i ddarllen mwy am y cynllun