Caru Cymru: Cymunedau’n Gweithredu dros Amgylchedd Glanach
Enw Prosiect:
Caru Cymru
Awdurdodau Lleol:
Conwy, Sir y Fflint, Ynys Môn, Wrecsam
Sefydliad Arweiniol:
Cadwch Cymru’n Daclus
Nod y Prosiect
Mae Caru Cymru yn gweithio i gryfhau balchder cymunedol, gwella ansawdd yr amgylchedd lleol, a meithrin newid ymddygiad drwy wirfoddoli a gweithredu cymdeithasol.
Prif Amcanion
- Lleihau sbwriel a gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
- Hyrwyddo ymddygiadau cynaliadwy megis ailgylchu a lleihau defnydd plastig
- Cefnogi creu grwpiau cymunedol a phartneriaethau newydd i barhau â’r gwaith ar ôl cyfnod ariannu Cronfa Ffyniant Gyffredin
Uchafbwyntiau Lleol (2022–2025)
- Defnyddio cychod Ribride i gludo gwirfoddolwyr i ardaloedd arfordirol Môn oedd yn anodd eu cyrraedd ar gyfer glanhau traethau
- Sefydlu Canolfan Sbwriel yn y Ganolfan Llesiant Wrecsam i gefnogi presgripsiwn gwyrdd
- Cydweithio yn Sir y Fflint i ddatblygu cynllun cynnal a chadw tymor hir ar gyfer ardaloedd ‘alleyways’
- Gweithio gyda Cyngor Tref Llanfairfechan i sicrhau ymrwymiad cymunedol parhaus y tu hwnt i ddigwyddiadau cychwynnol
Llwyddiannau Rhanbarthol
- Creu 2,237 o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws pedair sir
- Cofnodi 6,673 awr o wirfoddoli drwy weithgareddau casglu sbwriel a glanhau
- Sefydlu Canolfannau Sbwriel, Pencampwyr Sbwriel a Parthau Di-Sbwriel
- Cynyddu ymgysylltiad ag ysgolion, busnesau a sefydliadau cymunedol
Effaith
Mae’r fenter, ynghyd â’r cymunedau, wedi darparu buddion amgylcheddol a chymdeithasol ar draws Gogledd Cymru, gan greu sylfaen gref ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir a gweithredu dan arweiniad cymunedau.