Brandio

Mae brandio a chyhoeddusrwydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod agenda ehangach llywodraeth y DU yn cael ei hyrwyddo yn effeithiol a’i chydnabod, ac fel rhan o hynny, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU).

Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â’r holl ddeunyddiau cyfathrebu a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn gysylltiedig â gweithgarwch a ariennir – gan gynnwys print a chyhoeddiadau, a deunyddiau digidol ac electronig.

Mae cydymffurfio â gofynion brandio a chyhoeddusrwydd yn amod o Cytundeb Ariannu Grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru.

Canllaw Brandio a Chyhoeddusrwydd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

(dolen allanol)

Diweddariad Brandio – 04/12/2024

Dylai prosiectau CFfGDU ddefnyddio’r logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ sy’n cynnwys y Goron Tuduraidd a’r Arfbais a ddewiswyd gan Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III. 

Nid yw gosod logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn newid. Nid ydym yn disgwyl i asedau presennol gyda’r logo blaenorol gael eu tynnu i lawr neu eu tynnu ond dylid eu diwygio pan fydd asedau’n cael eu diweddaru nesaf.

Tîm CFfGDU

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Lleol

Diweddariad Brandio – 12/07/2024

Dylai prosiectau CFfGDU ddefnyddio’r logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn unig ac ni ddylech ddefnyddio’r logo ‘Wedi’i yrru gan Ffyniant Bro’ mwyach.

Nid yw gosod logo ‘Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU’ yn newid. Nid ydym yn disgwyl i asedau presennol gyda’r brand Ffyniant Bro gael eu tynnu i lawr neu eu tynnu ond dylid eu diwygio pan fydd asedau’n cael eu diweddaru nesaf.

Tîm CFfGDU

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Lleol

Gofynion penodol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Deunyddiau digidol gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
Gwefannau

Pan gyhoeddir manylion gweithgareddau’r Gronfa ar wefan, mae’n rhaid cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at y cyllid gan  yr UKSPF fel a ganlyn:

‘Mae’r prosiect hwn wedi cael ei [ariannu/ariannu yn rhannol] gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’

Os yw’n ymarferol, dylai cyflawnwyr prosiectau gynnwys dolen i dudalen we Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig hefyd, yn ogystal â’r testun canlynol (y mae’n rhaid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer nodiadau i olygyddion):

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twg economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Cyfryngau cymdeithasol

Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo gweithgareddau’r UKSPF ar  gyfryngau cymdeithasol fel X (Twitter), dylid defnyddio’r hashnod (#) canlynol #UKSPF.

Datganiadau i'r wasg

Rhaid i ddatganiadau i’r wasg gynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at CFfGDU ym mhrif gorff y datganiad i’r wasg fel a ganlyn:

“Mae’r [prosiect hwn/Enw’r prosiect] wedi cael £[RHOWCH Y SWM] gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.”

Mae’n rhaid hefyd defnyddio nodiadau penodedig i olygyddion yn yr holl weithgareddau â’r cyfryngau. 

“Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twg economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.”

Gofynion Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Deunyddiau digidol gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
Pan gyhoeddir manylion gweithgareddau’r Gronfa ar gwefannau, chyfryngau cymdeithasol neu datganiadau i’r wasg, dylid rhoi cyfeirnod a chydnabyddiaeth i bob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sy’n cefnogi’r prosiect drwy CFfGDU.
Logos yr Awdurdodau lleol
Dylid defnyddio logo pob awdurdod lleol sy’n ariannu’r prosiect drwy UKSPF ym mhob deunydd cyfathrebu a dogfen gyhoeddus sy’n ymwneud â’r gweithgaredd a ariennir.

Dylai’r logos ymddangos fel ‘partner ariannu’, fel y dangosir yn y canllawiau “Funded by UK government Branding Manual“.