Dathlu Llwyddiant: Cronfa Ffyniant Gyffredin yn Gwneud Gwahaniaeth Gwirioneddol ar draws Gogledd Cymru

 

O chwalu rhwystrau i gyflogaeth i uwchraddio cyfleusterau cymunedol allweddol, mae effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF) yng Ngogledd Cymru bellach yn glir — ac mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain.

Rhwng 2022 a 2025, derbyniodd y rhanbarth dros £123 miliwn o fuddsoddiad UKSPF, gan alluogi 169 o brosiectau i gyflwyno cynlluniau wedi’u teilwra’n lleol ar draws tair blaenoriaeth allweddol:

    • Cymunedau a Lle
    • Cefnogi Busnesau Lleol
    • Pobl a Sgiliau

Diolch i ddull arweinir yn lleol, gyda’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn gwneud penderfyniadau ariannu, mae’r rhaglen eisoes wedi:

    • Cefnogi dros 15,000 o bobl
    • Helpu 4,135 o fusnesau
    • Cefnogi dros 1,830 o grwpiau cymunedol

Effaith ar Raddfa Ranbarthol

Ymhlith llwyddiannau’r rhaglen mae:

  • 500 o gyfleusterau cymunedol wedi’u hadeiladu neu’u gwella
  • 686 o swyddi newydd wedi’u creu a bron i 1,000 wedi’u diogelu
  •  38,750 o gyfleoedd gwirfoddoli
  • 10,263 o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u cynnal
  • 7,600 o unigolion wedi ennill cymhwyster neu wedi cael cymorth i wneud hynny
  • 5,300 o bobl wedi manteisio ar gymorth cyflogadwyedd
  • 456 tunnell o ostyngiad mewn allyriadau CO₂ gan fusnesau a gefnogwyd

Datgelwyd y ffigurau mewn digwyddiad dathlu rhanbarthol yng Nghanolfan Fusnes Conwy, lle lansiwyd cyhoeddiad newydd yn cynnwys straeon ysbrydoledig o bob sir: Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.

Medd Y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Is-gadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru:

“Mae’r wybodaeth sydd gennym eisoes yn dangos llwyddiant ystyrlon a newid gwirioneddol ar draws Gogledd Cymru. Rydym eisoes yn gweld effaith gadarnhaol ar

asedau cymunedol a seilwaith lleol, twf ac effeithlonrwydd ymysg busnesau, a chynnydd wrth gefnogi pobl i fynd i gyflogaeth.

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru – diolch i’r dull hyblyg sydd wrth galon y gronfa – yn dangos sut y gall grymuso ardaloedd lleol fynd i’r afael â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn effeithiol ac yn effeithlon.”

Dywed Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ychwanegodd:

“Mae’n wych clywed am y prosiectau llwyddiannus ar draws Gogledd Cymru a wnaed yn bosibl gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Ein blaenoriaeth uchaf yw twf economaidd – ac mae’r gronfa hon yn helpu pobl i ennill sgiliau, sicrhau swyddi da, ac yn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwych i fyw, gweithio a rhedeg busnes.”

Cefnogi Pobl i Mewn i Waith: Gwyliwch yr Uchafbwyntiau

Mae’r fideo byr hwn yn dangos sut mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn helpu pobl ar draws Gogledd Cymru i ennill sgiliau, meithrin hyder, a symud yn nes at gyflogaeth. O gyfleoedd hyfforddiant i straeon personol ysbrydoledig, mae’n tynnu sylw at effaith wirioneddol y gefnogaeth gyflogadwyedd a ddarperir drwy brosiectau lleol.

👉 Gwyliwch isod i weld sut mae buddsoddi mewn pobl yn trawsnewid bywydau a chymunedau.