Straeon o Lwyddiant

Potensial Sgiliau a Gwaith Gwynedd

Sefydliad Arweiniol:

Cyngor Gwynedd

 

Ardal: Gwynedd gyfan

 

Blaenoriaeth Buddsoddi:

Pobl a Sgiliau

 

Buddsoddiad: £1,005,187

Beth yw’r cefndir?​​

Mae Potensial Sgiliau a Gwaith Gwynedd yn gynllun gan Gyngor Gwynedd sy’n cefnogi pobl i ddod o hyd i waith ac i wella eu sgiliau. Trwy gynnig hyfforddiant, cyngor a chymorth ymarferol, mae’r rhaglen yn gweithio gyda phobl o bob oed, yn ogystal â chyflogwyr a sefydliadau lleol, i greu cyfleoedd gwaith cadarn a helpu unigolion i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae’r rhaglen yn dilyn model y “Llwybr Cyflogaeth”, sy’n cynnwys pum cam: ymgysylltu â phobl, helpu unigolion i oresgyn rhwystrau personol, cynnig hyfforddiant galwedigaethol, cefnogi pobl i chwilio am waith, ac yna eu helpu i sicrhau a chynnal cyflogaeth. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Beth oedd y cymorth?​

Rhoddwyd rhaglen yn cynnwys pum ffrwd gwaith mewn lle i  gefnogi gwahanol grwpiau yng Ngwynedd—o ddisgyblion sy’n wynebu anawsterau, i bobl ifanc 16–25 oed, unigolion ag anableddau dysgu dwys, gweithwyr oedd angen uwch-sgilio, a busnesau oedd yn dymuno datblygu sgiliau eu gweithlu. Gyda’i gilydd, roedd y ffrydiau gwaith hyn yn cynnig cymorth cynhwysfawr i helpu pobl a chymunedau i symud ymlaen drwy waith. 

Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?

Fe lwyddodd y prosiect i gyflawni ystod eang o ymyriadau ar draws Gwynedd, gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau, cyflogwyr ac unigolion i wella cyfleoedd sgiliau a gwaith.

  • Sefydlwyd rôl cydlynydd gyrfa ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, gan greu llwybr cyfeirio clir i’r gwasanaeth.
  • Datblygwyd perthynas gadarnhaol â chyflogwyr ledled y sir, gan greu cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiadau gwaith mewn archfarchnadoedd, caffis a siopau elusennol.
  • Derbyniodd 119 o unigolion ag anableddau dysgu gymorth gan swyddogion cefnogi gwaith, gyda 21 ohonynt yn symud ymlaen tuag at gyflogaeth.
  • Cynorthwywyd unigolion i baratoi CV, ymarfer ar gyfer cyfweliadau a chysylltu â chyflogwyr, gan atal colli cyflogaeth mewn o leiaf ddau achos.
  • Roedd fframwaith o ddarparwyr hyfforddiant allanol ar waith, a manteisiodd nifer o fusnesau ar y Grant Gwella Sgiliau i ddatblygu eu gweithlu.
  • Sefydlwyd proses newydd i ganiatáu i fentoriaid Cymunedau am Waith a Mwy gyfeirio cleientiaid ymlaen i gymorth pellach wrth symud i gyflogaeth.
  • Bu cydweithio rhwng yr adran addysg a Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri i gynnig profiadau gwirfoddoli a gwaith i bobl ifanc.

O dan yr elfen ôl-16, trefnwyd gweithgareddau i wella llesiant a lleihau unigrwydd cymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys taith gerdded yn Nyffryn Ardudwy, sesiynau cymunedol i gynllunio taith haf i Ddulyn, a diwrnod i feithrin hyder a sgiliau bywyd. Comisiynwyd With Gobaith i ddarparu rhaglen therapi ceffylau “5 Ffordd at Les”, gan arwain at gyfleoedd gwirfoddoli i rai o’r cyfranogwyr. Cynhaliwyd hefyd sesiwn “Paratoi am Goleg” ar gyfer pobl ifanc oedd ar fin dechrau addysg bellach.

Mae’r prosiect wedi llwyddo i greu partneriaethau newydd a chryfhau cysylltiadau rhwng partneriaid, mae hyn wedi ein galluogi ni sicrhau fod unigolion yn cael y gefnogaeth briodol i’w helpu nhw gyrraedd ei potensial.

Mae’r prosiect wedi dangos effaith sylweddol ar unigolion a chymunedau, gan gryfhau llwybrau at waith a gwella llesiant ar draws Gwynedd.

Dyma straeon rhai o’r unigolion sydd wedi elwa o’r cynllun:

Cefnogaeth i Ysgolion  –  Prosiect Cerdd a Lles, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

 

Cymerodd pump o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn ran mewn prosiect cerddoriaeth chwe wythnos gyda’r nod o feithrin hyder, gwella eu sgiliau cyfathrebu a chodi cymhelliant. Roedd un disgybl yn derbyn sesiynau un-i-un, a’r pedwar disgybl arall mewn grŵp.

Er bod y grŵp eisoes wedi chwarae cerddoriaeth gyda’i gilydd, roeddent wedi colli rhywfaint o’u hyder oherwydd amgylchiadau personol ac yn yr ysgol. Trwy gymorth y prosiect, cafodd y disgyblion gyfle i ddatblygu eu sgiliau cerddorol a chymdeithasol, arbrofi â chyfansoddi, mynegi eu hunain yn hyderus, a chydweithio’n greadigol. Gwelwyd cynnydd amlwg yn eu hyder, eu creadigrwydd a’u parodrwydd i rannu syniadau.

Uchafbwynt y prosiect oedd y cyfle i recordio dwy gân mewn stiwdio broffesiynol ar system aml-drac. Roedd yr adborth gan yr ysgol a’r disgyblion yn hynod gadarnhaol, gan adlewyrchu cynnydd clir rhwng dechrau a diwedd y prosiect a gwelwyd effaith gadarnhaol ar les emosiynol y grŵp yn gyffredinol.

Mae’r prosiect yn dangos sut y gall cerddoriaeth fod yn offeryn pwerus i feithrin hyder, gwella lles a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fynegi eu hunain.

Cefnogaeth i Bobl Ifanc 16 – 25 Oed

Ar ôl cael diagnosis, cafodd Sion ei gyfeirio at Dîm Awtistiaeth Gwynedd ac yna at Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd. Roedd cael gwaith yn bwysig iddo er mwyn teimlo bod ganddo bwrpas ac i godi ei hyder. Treuliodd ei Weithiwr Ieuenctid amser yn ei gefnogi gyda’i deimladau a’i lesiant, gan ddod yn berson sefydlog y gallai Sion ymddiried ynddo. Cafodd hefyd ei gyfeirio at wasanaethau cymunedol ac ICAN am gymorth iechyd meddwl.

Dros amser, llwyddodd Sion i gael swydd rhan‑amser, ac fe dyfodd ei hyder a’i hunan‑werth. Yn fuan wedyn, symudodd ymlaen i waith llawn‑amser, gan allu fforddio rhedeg ei gar – rhywbeth oedd yn bwysig iddo gan ei fod yn mwynhau gyrru a darganfod ardaloedd newydd, ac yn ymddiddori ym myd natur.

Wrth weithio’n llawn‑amser, gosododd nod newydd iddo’i hun i basio trwydded HGV i weithio fel gyrrwr lorri. Trefnwyd apwyntiad gyda Gyrfa Cymru, lle cafodd gyngor ar ei ddewisiadau, ac fe’i cyfeiriwyd at y Grant Lwfans Personol i’w alluogi i wneud hyfforddiant iechyd a diogelwch NEBOSH. Cafodd Sion ei gyfeirio hefyd at dîm Gwaith Gwynedd, a derbyniodd grant i helpu gyda chostau cael ei drwydded HGV. Mae Sion bellach wedi pasio’r drwydded, ac yn paratoi ar gyfer ei Ddiploma Dosbarth 2.

Mae Sion yn teimlo’n bositif iawn am y dyfodol ac yn edrych ymlaen at wneud cais am swyddi fel gyrrwr HGV. Mae ei stori’n dangos pa mor bwysig yw rôl y Gweithiwr Ieuenctid – rhywun sy’n cynnig cefnogaeth llesiant, yn rhoi sefydlogrwydd, ac yn helpu i gydlynu cymorth gan wahanol asiantaethau pan fo ei angen.

Cafodd Karen ei chyfeirio at Ieuenctid Gwynedd gan ei Gweithiwr Cymdeithasol o’r Tîm Ôl Ofal. Roedd ei phresenoldeb yn yr ysgol wedi bod yn isel yn ystod ei blynyddoedd olaf, ac roedd hi’n ansicr ynghylch ei cham nesaf ar ôl gadael addysg.

Dechreuodd Karen weithio gyda’i Gweithiwr Ieuenctid i osod a chyflawni nodau personol. Trefnwyd cyfarfod gyda Gyrfa Cymru i roi gwybodaeth glir ac annibynnol iddi am ei dewisiadau, ac yna trafodwyd y rhain gyda’i Gweithiwr Ieuenctid i’w helpu i wneud penderfyniadau hyderus.

Roedd gan Karen ddiddordeb mawr mewn anifeiliaid, ac roedd hi wedi bod yn berchen ar geffyl yn y gorffennol. Defnyddiwyd arian y gronfa i gomisiynu WITH Gobaith i ddarparu cwrs Therapi Ceffylau. Mynychodd Karen y cwrs gyda chefnogaeth ei Gweithiwr Ieuenctid, ac roedd yn gyfle iddi gwrdd â phobl ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Roedd hyn yn brofiad cadarnhaol iawn iddi—fe wnaeth hi wneud ffrindiau newydd ac ennill hyder i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp pellach mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

O ganlyniad i’w hymrwymiad a’i brwdfrydedd tuag at geffylau, cafodd Karen gyfle i wirfoddoli’n wythnosol gyda WITH Gobaith. Mae hi bellach yn dilyn cymhwyster BHS Stage 1 mewn Gofal Ceffylau, ac ers mis Medi mae hi hefyd wedi dechrau ar gwrs Cam Ymlaen yn y coleg lleol. Mae hi’n mynychu’r coleg pedwar diwrnod yr wythnos ac yn parhau i wirfoddoli ac astudio ei chwrs BHS ar y pumed diwrnod.

Cefnogaeth mewn Gwaith (Oedolion)

 

Roedd Donna yn gweithio’n rhan‑amser mewn manwerthu ond cafodd ei diswyddo yn gynnar yn 2025. Gan ei bod wedi gadael yr ysgol cyn troi’n 16, doedd dim llawer o gymwysterau ffurfiol ganddi, ac roedd ei swydd flaenorol yn waith tymhorol yn y sector lletygarwch. Ar ôl gweld post gan Gwaith Gwynedd am gwrs SIA (trwydded sy’n ofynnol i’r maes diogelwch) am ddim, cysylltodd i ofyn am gymorth.

Yn y cyfarfod cyntaf, daeth yn amlwg bod gan Donna sgiliau gwasanaeth cwsmer da ac awydd cryf i weithio yn y sector diogelwch. Fodd bynnag, heb hyfforddiant na thrwydded SIA, nid oedd modd iddi symud ymlaen. Trefnodd Gwaith Gwynedd gynllun cefnogi iddi, gan gynnwys cwblhau’r cwrs ar‑lein Hanfodion Diogelu i’w pharatoi ar gyfer hyfforddiant SIA.

Erbyn yr ail a’r trydydd cyfarfod, roedd Donna yn frwdfrydig ac wedi trefnu popeth ei hun—amser i ffwrdd o’r gwaith a thrafnidiaeth i’r lleoliad hyfforddi. Mynychodd y cwrs bob dydd yn brydlon ac enillodd adborth rhagorol gan y darparwr hyfforddi am ei hymrwymiad a’i brwdfrydedd.

Cwblhaodd Donna ei chwrs Hanfodion Diogelu, ac yna pasiodd gwrs Lefel 2 BIIAB ar gyfer Goruchwylwyr Drws, gan gynnwys cymhwyster Cymorth Cyntaf Brys. O ganlyniad i’w hymdrechion, mae Donna bellach wedi cael cynnig swydd gyda chwmni diogelwch lleol.

Roedd Harry wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch am flynyddoedd ond eisiau newid ei yrfa a hyfforddi fel trydanwr. Er ei fod wedi sicrhau lleoliad gwaith dros dro, doedd ganddo fo ddim cymwysterau ffurfiol ac roedd angen iddo wella ei TGAU i symud ymlaen. Gan ei fod newydd ddod yn rhiant, roedd yn benderfynol o sicrhau dyfodol mwy sefydlog a chyflog gwell.

Cafodd Harry gynllun cefnogi gan Gwaith Gwynedd, a gwnaeth gwrs ar‑lein byr i gryfhau ei wybodaeth sylfaenol. Fe wnaeth Gwaith Gwynedd adnabod dau gwrs addas Peirianneg Drydanol yn y coleg lleol, ac fe wnaeth Harry gysylltu’n uniongyrchol â’r coleg i gofrestru ar brentisiaeth Peirianneg Drydanol. Roedd angen iddo wella ei TGAU Saesneg, felly gyda chefnogaeth Gwaith Gwynedd cofrestrodd ar gwrs Sgiliau Hanfodol gydag Addysg Oedolion Cymru.

Cafodd Harry gymorth hefyd i ddiweddaru ei CV ac anfon ceisiadau at fusnesau adeiladu, ac fe wnaeth o lwyddo i gael swydd gyda chontractwr trydanol lleol, gyda’r posibilrwydd o brentisiaeth ar ôl cyfnod prawf. Mae Harry bellach yn teimlo’n agosach at gyrraedd ei nod ac yn fwy hyderus ar ôl cwblhau’r cwrs byr.

Oedolion gydag Anabledd Dysgu​​

Mae John wedi symud o wneud profiad gwaith mewn caffi i gael swydd gyflogedig 9 awr yr wythnos mewn caffi lleol – ac mae’n gwneud yn arbennig o dda. Mae bellach yn hyderus yn y tasgau dydd‑i‑ddydd, gan gynnwys defnyddio’r til, cymryd archebion a glanhau.

Mae’r swydd wedi rhoi cyfle iddo gwrdd â chwsmeriaid newydd ac ehangu ei gylch cymdeithasol. Mae John hefyd wedi dod yn fwy annibynnol, ac erbyn hyn mae’n teithio ar y trên ar ei ben ei hun i gyrraedd y gwaith.

Mae Mari wedi dechrau gweithio fel glanhawraig mewn gwesty. Ar y dechrau, roedd rhai pryderon ynghylch ei dealltwriaeth o reolau’r gwaith a beth oedd yn cael ei ddisgwyl ohoni.
I’w helpu, bu’r Swyddog Cyfleoedd Gwaith yn gweithio’n agos gyda Mari a’r cyflogwr. Fe wnaethant greu cynllun syml oedd yn dangos trefn ei diwrnod a’r tasgau roedd angen iddi eu gwneud. Roedd hyn yn gwneud cyfathrebu’n gliriach ac yn helpu Mari i deimlo’n fwy hyderus.
Roedd y cymorth hwn yn bwysig iawn i’w galluogi i gadw ei swydd, ac mae wedi bod yn llwyddiant. Mae Mari bellach wedi symud ymlaen i weithio yn yr ystafelloedd gwely, lle mae angen iddi gymryd mwy o gyfrifoldeb a gweithio’n fwy annibynnol.