Straeon o Lwyddiant

Hyfforddiant Net Sero

Sefydliad Arweiniol:

Grŵp Llandrillo-Menai

 

Ardal:

Gwynedd gyfan

 

Blaenoriaeth Buddsoddi:

Pobl a Sgiliau

 

Buddsoddiad: £499,647

Beth yw’r cefndir?​​

Cynllun gan Busnes@LlandrilloMenai gyda’r nod i uwchsgilio gweithlu y diwydiant adeiladu oedd Hyfforddiant Net Sero. Roedd yn ymateb i’r galw cynyddol am y dechnoleg ynni gwyrdd ddiweddaraf er mwyn datgarboneiddio cartrefi, a’r angen am hyfforddiant arbenigol a chymwysterau priodol gan weithwyr busnesau lleol.

Beth oedd y cymorth?​

Er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am arbenigedd mewn technolegau cynaliadwy, cynhaliwyd cyfres o gyrsiau byr i feithrin sgiliau ymarferol ym maes datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy. Roedd y rhaglen hyfforddi yn cwmpasu ystod eang o bynciau arbenigol, gan gynnwys:

  • Technegau inswleiddio waliau allanol
  • Gosod a cynnal a chadw paneli solar
  • gosod pympiau gwres o’r ddaear a’r aer
  • Systemau storio batri ar gyfer systemau ynni adnewyddadwy.

Elfen allweddol o’r fenter oedd y bartneriaeth gyda Tŷ Gwyrddfai, canolfan ddatgarboneiddio arloesol ym Mhenygroes. Drwy’r cydweithrediad hwn cafodd y cyfranogwyr gyfle i hyfforddi gan ddefnyddio’r offer diweddaraf, gan sicrhau bod y dysgu yn unol â safonau’r diwydiant.

Arweiniwyd nifer o’r sesiynau gan gwmnïau cynhyrchu offer o fri rhyngwladol, gan roi profiad uniongyrchol i’r myfyrwyr o dechnolegau blaengar a’r arferion gorau. Yn bwysig, roedd y rhaglen hefyd yn cynnig llwybrau at gymwysterau proffesiynol, gan wella cyflogadwyedd a chefnogi’r trawsnewid i weithlu carbon isel.

Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?

Mae’r hyfforddiant wedi cefnogi cwmnïau lleol trwy eu galluogi i ddatblygu ac ehangu eu gwasanaethau er mwyn dod yn rhan o’r cadwyni cyflenwi y diwydiant adeiladu sy’n cefnogi’r gwaith o leihau carbon mewn tai.

Cefnogwyd unigolion i ddatblygu eu sgiliau trwy gael hyfforddiant arbenigol a chymwysterau wedi’u hachredu ym maes adeiladu, peirianneg sifil, lleihau carbon ac ôl-osod.

Bwriad y prosiect oedd helpu pobl a busnesau i gymryd camau ymarferol tuag at ddyfodol carbon isel. Gwyddom fod y galw am sgiliau gwyrdd yn tyfu’n gyflym ac rydyn ni am sicrhau bod gan gyflogwyr lleol y gallu a’r hyder i fynd i’r afael â’r gwaith. Drwy gynnig hyfforddiant a ariennir yn llawn mewn meysydd fel ôl-osod, ynni adnewyddadwy a rheoli prosiectau, rydyn ni’n cefnogi busnesau bach i dyfu, i addasu ac i barhau i wasanaethu eu cymunedau. 

Y bwriad ydi cynnig y sgiliau iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, fel bod ein heconomi leol yn gallu ffynnu mewn byd sy’n newid.

Gwenllian Roberts
Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol
Busnes@LlandrilloMenai

 

Roedd cynllun gwreiddiol Hyfforddiant Net Sero yn weithredol hyd at Mawrth 2025.  Mae’r gweithgaredd bellach yn rhan o’r cynllun Sgiliau Gwyrdd i Gyflogwyr

 

Dyma straeon rhai o’r unigolion sydd wedi elwa o gymorth Hyfforddiant Net Sero:

Astudiaeth achos busnes:

Robinsons Electrical

Beth yw’r ​cefndir?​​

Mae Kate Robinson yn berchen ar gwmni Robinson Electrical, Tanygrisiau. Maen nhw’n gwmni bach teuluol sy’n darparu gwasanaethau trydanol ac yn canolbwyntio yn bennaf ar waith domestig, gan gynnwys ailweirio cartrefi hŷn, gosodiadau trydanol a thrwsio. Maen nhw hefyd yn darparu gwasanaethau masnachol, fel creu Adroddiadau Cyflwr Trydanol (EICRs) a gwiriadau diogelwch ar gyfer gwestai a llety hunanarlwyo.

Beth oedd y cymorth?

Dilynodd Kate Robinson gwrs EAL L3 mewn gosod Systemau Solar Ffotofoltäig, EAL Lefel 3 ar gyfer Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, a Lefel 3 LCL mewn Systemau Storio Ynni Trydanol (EESS).

Pa wahaniaeth mae cymorth y cynllun wedi ei wneud?

Roedd Kate yn falch iawn o’r cyfle i gymryd rhan mewn cynllun sydd wedi caniatáu iddi ddysgu sut i osod technoleg newydd yng nghartrefi cwsmeriaid. Mae’r sgiliau newydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac wedi golygu bod y busnes yn gallu ehangu eu gwasanaethau i gynnwys cynghori cwsmeriaid ar sut i storio a defnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian.

Roedd y ffaith fod y cyrsiau yn lleol yn golygu nad oeddwn i yn gorfod teithio i gael yr hyfforddiant. Gyda’r cymwysterau newydd rydym wedi ymestyn gwasanaethau y gallwn eu cynnig.

Kate Robinson
Robinsons Electrical, Tanygrisiau

Astudiaeth achos busnes:

Datblygiadau Egni

Gwledig (DEG)

 

Beth yw’r ​cefndir?​​

Mae Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) yn fenter gymdeithasol yng ngogledd orllewin Cymru sy’n cefnogi gweithredu cymunedol, a datblygu prosiectau sy’n lleihau tlodi tanwydd ac yn cynyddu buddion lleol.

Mae DEG yn helpu pobl leol i weithio gyda’i gilydd fel cymuned i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, defnyddio ynni’n fwy effeithlon, a gwneud y gorau o’r cynhyrchiant ac effeithlonrwydd hyn er budd pawb. Mae’u gwaith yn gwneud y prosiectau hyn yn llai cymhleth, yn helpu pobl i ddysgu a rhannu phrofiadau, ac yn dod ag adnoddau eraill (arian, arbenigedd ac amser) i sicrhau y gall y prosiectau hyn ddigwydd.

Mae Osian Rowlands yn Swyddog Ynni Cymunedol a Swyddog Addysg gyda DEG.

Beth oedd y cymorth?

Dilynodd Osian gwrs Asesydd Ynni Domestig ABBE Lefel 3  fel rhan o’r cynllun.

Pa wahaniaeth mae cymorth Hyfforddiant Net Sero wedi ei wneud?

Diolch i’r cynllun mae Osian wedi gwella ei sgiliau sy’n golygu ei fod yn gallu cynnal arolwg ynni yng nghartrefi pobl sydd eisiau bod yn fwy effeithlon neu mynd i’r afael a thlodi tanwydd yn haws.
Wrth roi cyngor a chynnal arolygon ynni mae DEG bellach yn gallu rhoi gwasanaeth i drigolion lleol, gan bobl sydd wedi eu hyfforddi’n lleol.

Mae’r cynllun yn un gwerth chweil a byddwn yn annog pobl sy’n gweithio yn y maes ac eisiau gwella eu sgiliau i gofrestru. Mae wedi  helpu fi i allu cyflawni fy swydd yn fwy effeithiol a  chefnogi pobl yn yr ardal efo’u anghenion o ran ynni. Fel cam nesaf rydw i wedi cofrestru ar gyfer y cwrs Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol.

Osian Rowlands
DEG

Astudiaeth achos busnes:

Aer Cymru

Beth yw’r ​cefndir?​​

Mae AER Cymru, Penrhyndeudraeth yn gwmni sy’n cyflogi 20 o bobl ac yn cynnig gwasanaethau trydanol, plymio a mecanyddol. Maent yn gallu ateb gofynion o newid ffiws neu wasier i brosiectau mawr sydd werth miliynau.

Beth oedd y cymorth?

Cafodd sawl aelod o’r gweithlu hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder gyda’r rheoliadau diweddaraf.

I ni mae’n golygu ein bod ni’n parhau i ddatblygu, gan sicrhau bod ein gwasanaethau yn cydymffurfio â’r rheoliadau amgylcheddol diweddaraf. Mae hefyd yn rhoi hyder i’n cwsmeriaid fod gan ein tîm y sgiliau angenrheidiol i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf.

Martin Roberts
Perchennog, AER Cymru