Cronfa Sector Wirfoddol Gwynedd
Sefydliad Arweiniol:
Mantell Gwynedd
Ardal:
Gwynedd gyfan
Blaenoriaeth Buddsoddi:
Cymuned a Lle
Buddsoddiad: £1,559,830
Beth yw’r cefndir?
Mantell Gwynedd yw prif sefydliad cefnogi gweithgaredd gwirfoddol yng Ngwynedd, ac mae’n rhan o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Ei genhadaeth yw grymuso grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol, gan annog unigolion i wirfoddoli ar draws y sir.
Sefydlodd Mantell Gwynedd cronfa grant benodol i gefnogi mudiadau trydydd sector. Nod y gronfa oedd:
- Cryfhau gwead cymdeithasol drwy gynyddu cydweithio a chysylltiadau lleol.
- Meithrin ymdeimlad o falchder cymunedol drwy gynnal prosiectau sy’n adlewyrchu hunaniaeth a diwylliant Gwynedd.
- Hyrwyddo cynaliadwyedd drwy fuddsoddi mewn mudiadau sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau lleol.
Beth oedd y cymorth?
Cynigwyd grantiau rhwng £2,000 a £250,000 i gefnogi mudiadau fyddai’n arwain at wella safon bywyd trigolion a chymunedau Gwynedd. Bu 36 o fudiadau yn llwyddiannus i gael grant ar gyfer amrywiaeth o brosiectau yn cynnwys:
- Gwella a moderneiddio canolfannau cymunedol
- Darparu offer newydd i glybiau chwaraeon lleol
- Cyflogi cydlynwyr gweithgareddau i hwyluso digwyddiadau a chynyddu cyfranogiad cymunedol
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Cafodd 40 o ofodau cymunedol ar draws Gwynedd eu gwella, yn cynnwys Capel Bedyddwyr Tywyn, Neuadd Goffa Llanllyfni, Canolfan Gymdeithasol Talysarn, Neuadd Rhiwlas, Neuadd Carmel, Clwb Pêl-droed Caernarfon a chlybiau rygbi Dolgellau a Pwllheli. Yn dilyn gwelliannau i’r adeiladau cymunedol bydd eu heffeithlonrwydd ynni yn uwch a’u costau rhedeg yn is.
Cefnogwyd bron i 400 o weithgareddau lleol, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i bron 4000 o drigolion y sir, ac o ganlyniad, mae 1,387 o bobl ychwanegol yn gwneud defnydd o’r adnoddau cymunedol a gafodd arian.
Bu i’r mudiadau llwyddiannus orfod mynd ati yn ddiymdroi er mwyn cwblhau amrywiaeth enfawr o weithgareddau a datblygiadau cymunedol. Mae’r gweithredu chwim yn dystiolaeth o wytnwch cymunedol arbennig yng Ngwynedd.
Bethan Russell Williams
Prif Swyddog Mantell Gwynedd
Gallwch ddysgu am yr holl brosiectau
gafodd eu hariannu gan y gronfa
yn y llyfryn hwn:
Dyma straeon rhai o’r cymunedau ac unigolion sydd wedi elwa o’r gronfa:
Beth yw’r cefndir?
Mae Canolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog yn ganolfan gymunedol leol a champfa yng Ngwynedd a sefydlwyd ym Mehefin 1973. Maent yn cynnig gwasanaethau a phrosiectau cymunedol, ac ystafelloedd i’w llogi i’r gymuned.
Beth oedd y cymorth?
Fe gafodd y ganolfan grant gan y Gronfa Sector Gwirfoddol i uwchraddio’r drysau a’r ffenestri i rai gwydr dwbl, a gosod boeler newydd i adnewyddu’r system wresogi. Prif amcanion y prosiect oedd gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau tanwydd, a gwella lefelau cysur defnyddwyr y ganolfan.
Pa wahaniaeth mae cymorth y cynllun wedi ei wneud?
Mae’r adeilad bellach yn fwy cynaliadwy diolch i osod boeler newydd ac uwchraddio’r ffenestri. O ganlyniad i’r gwelliannau hyn, rhagwelir y bydd Y Ganolfan yn arbed tua £5,000 y flwyddyn mewn costau ynni. Mae hyn nid yn unig yn lleihau’r baich ariannol, ond hefyd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon y gymuned.
Mae’r gwelliannau diweddar wedi sbarduno ymdeimlad newydd o falchder ymhlith trigolion lleol. Mae mwy o bobl yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan weld Y Ganolfan fel lle croesawgar a modern. Mae’r ymdeimlad o berthyn wedi cryfhau, gan wneud y Ganolfan yn ganolbwynt cymdeithasol pwysig.
Mae unigolion wedi adrodd eu bod yn teimlo’n llai unig, gan fod y Ganolfan bellach yn cynnig amgylchedd cyfforddus lle gallant gymdeithasu’n rheolaidd. Mae’r gwelliannau wedi annog pobl i aros yn hirach yn ystod sesiynau, gan greu cyfleoedd naturiol i feithrin cyfeillgarwch a chysylltiadau cymunedol newydd.
“Mae’r Ganolfan yn edrych yn wych, yn adeilad modern ei wedd”
“ Mae teimlad teuluol o gwmpas y ganolfan rhwng y bobl sy’n defnyddio’r ganolfan yn ddyddiol”
“Mae’r Ganolfan yn ardal lle gall pobl a grwpiau cymunedol bach ddod at ei gilydd mewn ardal gymunedol a diogel”
“Mae yna deimlad cymunedol cryf yn Y Ganolfan y dyddiau hyn”
“Mae gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn Y Ganolfan yn wych ar gyfer fy iechyd meddwl”
Beth yw’r cefndir?
Sefydlwyd Banc Bwyd Arfon yn 2012 gan eglwysi lleol a grwpiau cymunedol, gyda’r nod o fynd i’r afael â thlodi bwyd yn ardal Arfon. Mae’r fenter yn darparu parseli bwyd i unigolion a theuluoedd sy’n wynebu argyfwng ac yn methu â fforddio prynu bwyd hanfodol.
- Mae’r banc bwyd yn agored ddwywaith yr wythnos.
- Mae’n dibynnu ar roddion gan unigolion, eglwysi, archfarchnadoedd a sefydliadau lleol.
- Mae’r model gweithredu yn seiliedig ar wirfoddolwyr, gan sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai mwyaf agored i niwed.
Yn ogystal â darparu bwyd, mae Banc Bwyd Arfon yn cynnig cymorth ymarferol a chynhwysol i’r gymuned, sy’n cynnwys rhaglen cynhwysiant ariannol mewn partneriaeth â Cyngor ar Bopeth Gwynedd. Mae cefnogaeth emosiynol a chymdeithasol gan y gwirfoddolwyr hefyd, gan greu amgylchedd croesawgar heb feirniadaeth, sy’n annog pobl i deimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae’r galw am y gwasanaeth wedi cynyddu’n sylweddol yn sgil ffactorau economaidd ac argyfwng costau byw. Ar hyn o bryd mae 30-45 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i’r banc bwyd bob wythnos ac mae angen recriwtio mwy o wirfoddolwyr i ateb y galw cynyddol am wasanaethau gan ymwelwyr.
Beth oedd y cymorth?
Gyda chefnogaeth y Gronfa Sefydliadau Gwirfoddol cyflogwyd Cydlynydd Gwirfoddolwyr i wella recriwtio, cadw a chefnogi gwirfoddolwyr. Mae’r Cydlynydd wedi chwarae rôl allweddol drwy greu systemau ar gyfer trefnu sifftiau, cynnal digwyddiadau rhwydweithio, a sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu paru â rolau sy’n cyd-fynd â’u sgiliau.
Pa wahaniaeth wnaeth y cymorth?
Mae profiad y gwirfoddolwyr wedi gwella’n sylweddol ers cyflwyno rôl y Cydlynydd:
- Mae’r cydlynydd yn gwrando ar eu barn ac yn rhoi llais i wirfoddolwyr yn y broses.
- Sefydlwyd system newydd sy’n galluogi gwirfoddolwyr i gofnodi a newid y dyddiau y gallent weithio neu fod ar gael, gan roi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth dros eu cyfraniad.
- Mae hyn wedi arwain at ymdeimlad cryfach o werthfawrogiad ac ymrwymiad ymhlith y gwirfoddolwyr.
Mae’r tîm rheoli craidd wedi elwa o gymorth y Cydlynydd:
- Cynyddu capasiti i reoli gweithrediadau’r banc bwyd yn fwy effeithiol.
- Lleihau straen drwy rannu’r baich gwaith dyddiol a chydlynu tasgau.
- Rhyddhau amser i ganolbwyntio ar waith strategol, fel paratoi ceisiadau am gyllid a datblygu cynlluniau hir-dymor.
Mae’r gefnogaeth gan y Cydlynydd wedi cryfhau’r strwythur arwain, gan sicrhau bod Banc Bwyd Arfon yn gallu ymateb yn well i’r galw cynyddol ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth cynhwysol a chynaliadwy i’r gymuned.
Stori Gwirfoddolwr
Mae’r gwirfoddolwr ‘A’ wedi ymddeol ac wedi bod yn gwirfoddoli yn y banc bwyd ers tair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi pacio parseli bwyd ddwywaith yr wythnos ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.
Mae’r Cydlynydd wedi ei symud yn ddiweddar i’r swyddfa lle maent yn trefnu’r parseli bwyd. Mae bod yn rhan o dîm y swyddfa yn cyd-fynd yn well a’u profiad a’u sgiliau, gan roi cyfle iddynt gyfrannu’n fwy effeithiol. Mae’r gwirfoddolwr yn teimlo bod y Cydlynydd yn hawdd iawn mynd ato ac yn barod i wrando, sy’n gwneud y profiad o wirfoddoli yn fwy cadarnhaol ac yn llai o straen.
Mae’r gwirfoddolwr wedi nodi sawl gwelliant mae’r Cydlynydd wedi ei wneud:
- Mae safoni prosesau wedi symleiddio a chynyddu effeithlonrwydd lle bo modd.
- Mae cydbwysedd gwell o ran adnoddau, rheoli pobl, a rheoli amser.
- Mae’r Cydlynydd yn treulio amser gyda’r gwirfoddolwyr gan wrando ar syniadau a gwneud newidiadau i gyfoethogi eu profiadau.
O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae gwirfoddolwyr fel ‘A’ yn teimlo’n fwy gwerthfawr, grymus a balch o’u cyfraniad. Mae’r profiad yn mynd y tu hwnt i wirfoddoli’n ymarferol – mae’n meithrin ymdeimlad o berthyn a chysylltiad cryfach â’r gymuned.
Beth yw’r cefndir?
Sefydlwyd Hafod Ceiri fel cwmni elusennol gyda’r nod o drawsnewid adeilad hanesyddol Capel Isaf, yng nghanol pentref Llithfaen, i fod yn ganolfan gymunedol a threftadaeth. Mae’r cynllun yn cynnwys datblygu caffi cymunedol, awditoriwm, sinema, unedau busnes a llety. Y cam cyntaf oedd sefydlu’r caffi, fel man i gynnig gweithgareddau cymunedol.
Beth oedd y cymorth?
Cafodd Hafod Ceiri gefnogaeth y Gronfa i ariannu gwaith adeiladu a dodrefnu’r caffi, ac mae bellach yn lle croesawgar i drigolion lleol alw heibio am baned.
Pa wahaniaeth wnaeth y cymorth?
Drwy adfer adeilad hanesyddol i greu Caffi Hafod Ceiri mae cymuned gyfan wedi ei hadfywio drwy greu cyfleoedd i wirfoddoli a chymdeithasu, sy’n ymateb i broblemau lleol megis unigrwydd a diffyg cyfleoedd gwaith. Ers agor y caffi mae trigolion lleol wedi nodi eu bod yn teimlo’n llai unig, yn teimlo’n perthyn i gymuned, a bod eu iechyd meddyliol a chorfforol yn well. Yn ogystal, mae’r caffi yn cyfrannu at gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol, gan greu lle i bobl o bob oed ddod ynghyd, rhannu straeon, a chynnal hunaniaeth leol.
Mae’r caffi yn le cymdeithasol hygyrch yn ystod y dydd, yn wahanol i dafarnau neu ganolfannau sydd ar agor yn achlysurol neu gyda’r nos yn unig. Mae tua 150 o drigolion lleol yn defnyddio’r gofod mewn sesiynau rheolaidd.
Cafodd 20 o wirfoddolwyr eu hyfforddi i helpu redeg y caffi mewn rolau amrywiol, ac mae digwyddiadau amrywiol wedi cael eu trefnu. Mae’r caffi yn cynnig lleoliad dyddiol i wirfoddolwyr fynychu ar gyfer helpu gyda’r gwaith arlwyo a chynnig paneidiau, ac yna, nes ymlaen i helpu gyda gweithgareddau megis clybiau celf, darllen, cadw’n heini, yoga a cherdded.
‘Yr hyn dan ni angen yw rhywle sydd yn braf i alw heibio am baned a sgwrs a bod teimlad lleol a chymunedol i’r lle.’
“Mae helpu i wella’r pentref yn rhoi synnwyr o bwrpas i mi.”
‘Mae o yn Llithfaen ei hun, yn lleol, rydach chi’n cael gweld pobol yr ydach chi’n eu nabod.’
‘Byddai’r Caffi yn gallu cynnig cyfle am waith yn y pentref yn arbennig i bobl ifanc.’





