Straeon o Lwyddiant

Beicio i Bawb

Sefydliad Arweiniol:

Antur Waunfawr

 

Ardal:

Caernarfon ac ysgolion Gwynedd

 

Blaenoriaeth Buddsoddi:

Cymuned a Lle

 

Buddsoddiad: £281,189

 

Beth yw’r cefndir?​​

Mae Beics Antur yn un o fusnesau gwyrdd Antur Waunfawr, wedi’i leoli ym Mhorth yr Aur yng nghanol tref Caernarfon. Sefydlwyd y busnes fel rhan o genhadaeth Antur Waunfawr i gynnig cyfleoedd iechyd a llesiant i’r gymuned. Yn ogystal â llogi, adnewyddu a gwerthu beiciau, mae’r ganolfan yn darparu gwasanaeth trwsio, gan annog pobl i feicio yn hyderus ac yn ddiogel.

Er mwyn ehangu’r cynnig, datblygwyd y prosiect Beicio i Bawb. Nod y prosiect oedd cyflwyno sesiynau hyfforddi a gweithgareddau beicio ar draws ardal Gwynedd er mwyn:

  • gwella sgiliau beicio a magu hyder ymhlith beicwyr newydd ac
  • annog pobl o bob oed i gymryd rhan mewn beicio fel gweithgaredd cymdeithasol

Roedd angen ychwanegu beiciau arbenigol wedi’u haddasu i fflyd Beics Antur er mwyn ehangu mynediad i bobl gydag anableddau dysgu, ac i’r gymuned yn ehangach. 

Beth oedd y cymorth?​

Drwy’r cynllun Beicio i Bawb cafodd dau feic arbenigol newydd eu prynu.​
Trefnwyd amrywiaeth o sesiynau hyfforddi a gweithgareddau beicio ar draws ardal Gwynedd er mwyn gwella sgiliau, magu hyder ac annog pawb i feicio. ​ Roedd rhain yn cynnwys gwersi sgiliau mewn ysgolion, sesiynau beicio i unigolion ag anableddau, a sesiynau ar gyfer grwpiau cymunedol na fyddai wedi cael mynediad i feicio fel arall.​

 

Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?

  • Cafodd dwy swydd eu creu a thair eu diogelu, ac mae tri aelod o staff wedi cael cymwysterau i roi hyfforddiant sgiliau beicio.​​
  • Mae dros 450 o sesiynau beicio wedi’u cynnal a 900 o blant ac oedolion wedi cymryd rhan.
  • Roedd yr holl blant oedd wedi cael gwersi sgiliau yn yr ysgol yn teimlo’n fwy diogel ac yn hyderus i feicio ar ôl y sesiynau.​​
  • Mae mynediad i feicio yn llawer gwell ac yn ymarferol i feicwyr amhrofiadol sydd heb feic. 

Da ni wedi cael beics newydd a chynyddu’r tîm, sydd wedi golygu ein bod ni wedi gallu gwneud mwy o bethau. ‘Da ni wedi mynychu ysgolion, rhedeg sesiynau hefo grwpiau cymunedol, a beicio dan do pan mae’r tywydd yn wael yn y gaeaf, yn ogystal â rhedeg y siop.
Mae’n wych gweld mwy o bobl yn gallu mwynhau rhyddid ar ddwy olwyn!”

​Tom Workman​
Rheolwr Siop, Beics Antur​​

Mae’r sesiynau yma wedi rhoi cyfle i’r disgyblion ddatblygu sgiliau amrywiol beicio, yn ogystal a rhoi cyfle wythnosol i ymarfer corff – sydd wrth gwrs yn gwella iechyd a lles y disgyblion. Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi anogaeth a chyfle i’r disgyblion weithio tuag at rywbeth arbennig – sydd wedi ein cynorthwyo hefo ymddygiad rhai disgyblion. Mae hyder cymdeithasu’r disgyblion wedi gwella, yn ogystal â gallu rhai i gael mynediad at wasanaethau yn y gymuned.

Staff Ysgol Pendalar, Caernarfon​