Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Gwynedd ar ran
Amgueddfa Lloyd George
Ardal:
Pwllheli, Gwynedd
Blaenoriaeth Buddsoddi:
Cymuned a Lle
Amgueddfa Lloyd George yn ailagor yn dilyn buddsoddiad
Beth yw’r cefndir?
Mae’r amgueddfa yn olrhain bywyd cyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George ar safle cartref ei blentyndod yn Llanystumdwy.
Dros y blynyddoedd, roedd arddangosfeydd a chypyrddau arddangos newydd wedi’u hychwanegu, ond roedd llawer o gypyrddau o’r Amgueddfa wreiddiol yn y 1960au yn dal yno.
Beth oedd y cymorth?
Comisiynwyd cwmni dylunio 3D profiadol i ailddatblygu’r gofod drwy foderneiddio’r arddangosfeydd a dod a’r stori yn fyw drwy ddefnyddio’r arteffactau. Fe wnaeth y cwmni ystyried nodweddion pensaernïol yr adeilad yn ofalus, a cafodd yr arddangosfeydd eu moderneiddio. Mae byrddau stori newydd ar y waliau, sgriniau i ddangos clipiau fideo hanesyddol, a chypyrddau arddangos newydd wedi eu dylunio yn arbennig.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae’r amgueddfa wedi ei gweddnewid i roi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o fywyd Lloyd George a chyd-destun yr oes. Mae gwrthrychau allweddol yn cael eu dangos fel rhan o bedair thema sy’n tywys y cyhoedd drwy’r hanes.
Mae’r cynllun wedi rhoi bywyd newydd i’r amgueddfa fydd yn ddeniadol i bobl lleol ac ymwelwyr.
Mae wedi bod yn bleser ac yn gyfrifoldeb i ailddatblygu arddangosfeydd yr Amgueddfa. Dros y blynyddoedd, roedd arddangosfeydd a chypyrddau arddangos newydd wedi’u hychwanegu, ond roedd llawer o gypyrddau o’r Amgueddfa wreiddiol yn y 1960au yn dal yno. Gyda’r buddsoddiad hwn, rydym yn gallu cyflwyno ffeithiau hanesyddol ochr yn ochr ag arteffactau mewn ffordd ystyrlon. Dim ond dechrau ein hymdrech barhaus i roi sylw i fywyd David Lloyd George a’r gwaddol a adawodd ar ei ôl ydi hyn.
Megan Cynan Corcoran
Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd
Rwy’n falch iawn bod Amgueddfa Lloyd George wedi ailagor ei drysau yn barod ar gyfer tymor yr haf. Mae Lloyd George yn parhau i fod yn ffigwr arwyddocaol a dadleuol yn hanes Cymru, Prydain a’r Byd a dechreuodd y cyfan ym mwthyn Highgate. Mae’r Amgueddfa yn parhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos, ac rydym bellach yn cynnig profiad cyfoes gyda graffeg ddiddorol a gweithgareddau clyweledol ymdrochol, sy’n annog myfyrio ar benderfyniadau arwyddocaol Lloyd George a’u gwaddol parhaol.
Cynghorydd Medwyn Hughes,
Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned

