Cronfa Cefnogi
Adfywio Cymunedau
Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Gwynedd
Ardal:
Gwynedd gyfan
Blaenoriaeth Buddsoddi:
Cymuned a Lle
Buddsoddiad: £1.8 miliwn
Beth yw’r cefndir?
Sefydlwyd cronfa grant gan Cyngor Gwynedd, er mwyn galluogi sefydliadau lleol, gan gynnwys mentrau a grwpiau adfywio, i arwain a datblygu prosiectau fyddai’n ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.
Beth oedd y cymorth?
Roedd y Gronfa Cefnogi Adfywio Cymunedol yn cynnig dwy haen o gymorth grant i ddiwallu anghenion cymunedol amrywiol – grantiau bach rhwng £10,000–£25,000 a grantiau mwy rhwng £25,000 a £200,000.
Bu 24 o sefydliadau neu fentrau cymunedol yn llwyddiannus i gael grantiau i fynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio.
O’r 24 cais llwyddiannus:
• Grantiau Bach (£10,000–£25,000): 7 cais llwyddiannus.
• Grantiau Mwy (£25,000–£200,000): 17 cais llwyddiannus.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mentrau amgylcheddol
O ganlyniad uniongyrchol i’r Gronfa Adfywio, plannwyd 64 o goed, cafodd pedwar man gwyrdd a llwybr beicio eu gwella, a chafodd pum eiddo eu diogelu rhag llifogydd ac erydu. Roedd hyn yn fuddsoddiad pwysig mewn gwytnwch o ran ymdrin â pheryglon sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Mentrau cymdeithasol
Mae’r Gronfa Adfywio Cymunedol wedi cefnogi 46 o ddigwyddiadau neu weithgareddau a 15 nodwedd gymdogaethol. Ar ben hynny cefnogwyd ymdrechion i wella sgiliau yn y gymuned gyda 164 o bobl wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant.
Mae mwyafrif y prosiectau yn ystyried mai ymgysylltiad cymunedol a chymdeithasol oedd effaith fwyaf eu prosiect yn eu hardal. Ar gyfer llawer o’r cyfranogwyr mae hyn yn deillio o’r ffaith bod mwy o bobl leol yn dod i’w cyfleusterau i gymdeithasu.
Datgelir hefyd bod mwy i’r agwedd gymdeithasol na dim ond pobl yn cymdeithasu yn eu cyfleusterau.
Roedd effeithiau cymdeithasol y prosiectau hefyd yn:
- darparu gwasanaethau i’r gymuned gan roi hwb i’r economi – e.e. trafnidiaeth gymunedol, lletygarwch mewn ardal anghysbell, cefnogi cyflenwyr bwyd lleol.
- diogelu treftadaeth leol a hanesyddol – e.e. cynnig gwersi Cymraeg
- hybu gwaith tîm a chydweithio drwy ddod â phobl ynghyd mewn digwyddiadau a chodi arian
Mae dogfen yn crynhoi’r holl brosiectau ar gael yma:
Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau
Dyma hanesion rhai o’r prosiectau a chymunedau sydd wedi elwa o gymorth y Gronfa Adfywio:
Canolfan Noddfa, Caernarfon
Dyfodol Gwyrdd a Di-Garbon
Beth yw’r cefndir?
Mae Canolfan Noddfa yn cefnogi cannoedd o bobl stad Ysgubor Goch (rhan o’r ward mwyaf di-freintiedig yng Ngwynedd) bob blwyddyn. Mae’r ganolfan yn ganolbwynt gymunedol lle mae nifer o weithgareddau a mudiadau yn ymgynnull yn wythnosol. Nod y prosiect oedd uwchraddio’r adeilad gan adnewyddu systemau craidd i leihau allyriadau carbon a chostau rhedeg.
Beth oedd y cymorth?
Drwy’r prosiect, mae’r ganolfan wedi gosod paneli solar ac prynu batris storio ynni sydd am eu galluogi i greu, storio a defnyddio ynni eu hunain yn y dyfodol. Maent hefyd wedi uwchraddio eu systemau gwresogi ac newid eu goleuadau i fod yn ynni effeithlon ac ymateb i’r galw i leihau allyriadau carbon.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Diolch i’r prosiect hwn, mae’r adeilad bellach ar ei newydd wedd ac wedi sefydlogi’r adnodd cymunedol er mwyn y dyfodol. Er mai dim ond ychydig fisoedd sydd wedi pasio ers i’r brosiect gael ei gyflawni, mae’r effaith ar gostau y canolfan yn sylweddol.
Mi roedd y ganolfan mewn argyfwng ac mae derbyn yr grant hwn wedi achub y ganolfan rhag gorfod cau. Mae’n adnodd cymunedol holl bwysig ac mi rydym nawr yn gallu cynllunio tuag at dyfodol gwell i’r gymuned.
Dewi Jones, Cynghorydd Ward Peblig, Caernarfon
Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy
Maes Parcio Llidiart
Beth yw’r cefndir?
Roedd arolwg cymunedol yn 2018 wedi dangos bod cefnogaeth gryf gan bobl Dyffryn Ardudwy a Thalybont i droi yr hen faes chwarae ar y stryd fawr i faes parcio. Y prif nod oedd cael lle hygyrch i drigolion anabl barcio er mwyn cael mynediad at fusnesau lleol, ac i leihau tagfeydd a gwella diogelwch oherwydd ceir wedi eu parcio’n amhriodol ar y stryd fawr.
Beth oedd y cymorth?
Gyda chymorth y gronfa, roedd modd i Gyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy wireddu eu cynllun, gan drawsnewid llecyn nad oedd yn cael ei ddefnyddio i fod yn faes parcio addas as gyfer defnydd y gymuned ac ymwelwyr.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae’r maes parcio wedi lleihau tagfeydd ar y brif ffordd, ac mae cynnydd yn y nifer o bobl sy’n mynd i’r siopau yn y pentref. Mae’r tîm pêl-droed lleol hefyd yn defnyddio’r maes parcio a cherdded lawr i’r cae, ac mae modd i ymwelwyr ei ddefnyddio er mwyn crwydro’r mynyddoedd cyfagos. Mae’n cynnwys dau le pwrpasol ar gyfer deiliaid bathodyn glas, ac mae bwriad i osod pwyntiau gwefru ar y safle.
Wrth wrando ar anghenion a phryderon ein preswylwyr, nid yn unig rydym wedi creu ateb ymarferol i faterion parcio, ond hefyd rydym wedi gwellhau ansawdd byw cyffredinol trigolion Dyffryn Ardudwy a Talybont.
Eryl Jones Williams
Cynghorydd Dyffryn Ardudwy
Menter y Glan
Gwesty Glan yr Afon, Pennal
Beth yw’r cefndir?
Pan ddaeth tafarn Glan yr Afon ym mhentref Pennal, Bro Dysynni ar werth yn 2021, daeth y gymuned at ei gilydd i brynu’r eiddo a sefydlwyd Menter y Glan. Yn ddiweddarach, daeth yn amlwg bod angen gwelliannau sylweddol i’r stafelloedd aros er mwyn denu mwy o gwsmeriaid.
Beth oedd y cymorth?
Gyda chymorth y gronfa, mae Menter y Glan wedi llwyddo i wneud gwelliannau a thrawsnewid llawr cyntaf yr eiddo i gynnig llety cyfforddus i ymwelwyr. Mae gofod i grwpiau lleol gynnal digwyddiadau hefyd.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae datblygiad pedair o ystafelloedd gwely i ymwelwyr wedi helpu i wneud y busnes yn fwy hyfyw at y dyfodol. Mae’r gofod cymunedol yn cael ei ddefnyddio gan glybiau a grwpiau cymunedol lleol a dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Mae’r fenter hefyd yn cefnogi’r economi leol drwy brynu cynnyrch lleol, defnyddio gwasanaethau lleol a chyflogi staff.
Mae siop gymunedol wedi agor ar y safle gan nad oes siop arall yn y pentref, ac yn y dyfodol mae cynlluniau i gyflogi garddwr ac i fanteisio ar ynni o’r afon gyfagos.
Mae gennym bedair ystafell wely sy’n brafiach na’r rhai oedd ar gael yn flaenorol er mwyn bodloni safonau uchel ymwelwyr i’r ardal. Mae llwybr yr arfordir yn mynd drwy’r pentref, ac mae Pennal yn y Parc Cenedlaethol, felly byddwn yn mynd ati i ddenu mwy o ymwelwyr yn y dyfodol.
Meirion Roberts
Menter y Glan
Clwb Pêl-droed Pwllheli
Hwb Heli
Beth yw’r cefndir?
Mae Clwb Pêl-droed Pwllheli yn un o’r rhai hynaf yng Nghymru, ac yn cystadlu yn nghynghrair Ardal Gogledd Cymru. Mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac aelodau cymunedol, ac roedd angen cartref parhaol i’r gymdeithas pêl-droed ar ochr y maes chwarae, Y Rec, ym Mhwllheli.
Beth oedd y cymorth?
Cafodd y clwb gymorth i adeiladu cartref newydd sbon sy’n cynnwys ystafelloedd newid, storfa ac ystafell gymunedol.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae cyfleuster gwerthfawr i’r gymuned wedi ei greu – Hwb Heli. Mae’r ystafelloedd newid yn cael eu defnyddio pan fydd ymarferion neu gemau ar y maes, ac hefyd mae’r ystafell clwb yn cael ei ddefnyddio gan sawl grŵp cymunedol yn rheolaidd, ac ar gyfer digwyddiadau lleol.
Oedd gynnon ni jyst y sylfaen yma, ond roedd yr arian yn ‘game changer’ – ro’n i’n gweld pethau yn dechrau adeiladu go iawn wedyn. Da ni’n lwcus – mae’r clwb newydd yn ffantastig!
Brendon Semmens
Cyfarwyddwr Hwb Heli
