Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy

Sefydliad Arweiniol:

Cyngor Gwynedd ar ran

Amgueddfa Lloyd George

 

Ardal:

Pwllheli, Gwynedd

 

Blaenoriaeth Buddsoddi:

Cymuned a Lle

 

Amgueddfa Lloyd George yn ailagor yn dilyn buddsoddiad

 

Beth yw’r ​cefndir?​​

Mae’r amgueddfa yn olrhain bywyd cyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George ar safle cartref ei blentyndod yn Llanystumdwy. ​
Dros y blynyddoedd, roedd arddangosfeydd a chypyrddau arddangos newydd wedi’u hychwanegu, ond roedd llawer o gypyrddau o’r Amgueddfa wreiddiol yn y 1960au yn dal yno. ​

Beth oedd y cymorth?​

Comisiynwyd cwmni dylunio 3D profiadol i ailddatblygu’r gofod drwy foderneiddio’r arddangosfeydd a dod a’r stori yn fyw drwy ddefnyddio’r arteffactau. Fe wnaeth y cwmni ystyried nodweddion pensaernïol yr adeilad yn ofalus, a cafodd yr arddangosfeydd eu moderneiddio. Mae byrddau stori newydd ar y waliau, sgriniau i ddangos clipiau fideo hanesyddol, a chypyrddau arddangos newydd wedi eu dylunio yn arbennig.

Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?

Mae’r amgueddfa wedi ei gweddnewid i roi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o fywyd Lloyd George a chyd-destun yr oes. Mae gwrthrychau allweddol yn cael eu dangos fel rhan o bedair thema sy’n tywys y cyhoedd drwy’r hanes. ​

Mae’r cynllun wedi rhoi bywyd newydd i’r amgueddfa fydd yn ddeniadol i bobl lleol ac ymwelwyr.​

Mae wedi bod yn bleser ac yn gyfrifoldeb i ailddatblygu arddangosfeydd yr Amgueddfa. Dros y blynyddoedd, roedd arddangosfeydd a chypyrddau arddangos newydd wedi’u hychwanegu, ond roedd llawer o gypyrddau o’r Amgueddfa wreiddiol yn y 1960au yn dal yno. Gyda’r buddsoddiad hwn, rydym yn gallu cyflwyno ffeithiau hanesyddol ochr yn ochr ag arteffactau mewn ffordd ystyrlon. Dim ond dechrau ein hymdrech barhaus i roi sylw i fywyd David Lloyd George a’r gwaddol a adawodd ar ei ôl ydi hyn.

​Megan Cynan Corcoran ​
Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd​

Rwy’n falch iawn bod Amgueddfa Lloyd George wedi ailagor ei drysau yn barod ar gyfer tymor yr haf. Mae Lloyd George yn parhau i fod yn ffigwr arwyddocaol a dadleuol yn hanes Cymru, Prydain a’r Byd a dechreuodd y cyfan ym mwthyn Highgate. Mae’r Amgueddfa yn parhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos, ac rydym bellach yn cynnig profiad cyfoes gyda graffeg ddiddorol a gweithgareddau clyweledol ymdrochol, sy’n annog myfyrio ar benderfyniadau arwyddocaol Lloyd George a’u gwaddol parhaol.

Cynghorydd Medwyn Hughes,
Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned