DIWEDDARAF:
Cynnigion cyllid wedi'u cyhoeddi  

  • Mae penderfyniadau ar geisiadau manwl (Cam 2) bron wedi'u cwblhau.
  • Hyd yn hyn, mae dros 120 o brosiectau gwerth dros £100m, wedi derbyn eu cynnig cyllid.  
  • Bydd gweddill y cynigion cyllid yn cael eu cyhoeddi'n fuan. 

Gofynion brandio a chyhoeddusrwydd

Trosolwg

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd.

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle;
  • Cefnogi Busnes Lleol; a,
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhaglen 'Lluosi' i wella rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa. 

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Yng Nghymru, rhaid i ardaloedd lleol weithio gydag eraill o fewn eu rhanbarth i ddarparu'r Gronfa. Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Mae cyfanswm o £126.46 miliwn wedi'i ddyrannu o'r UKSPF i Ogledd Cymru. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £21.84 miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).

Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfalaf a refeniw ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.

Ar 5 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yr arian yn dod i Ogledd Cymru, ond dim ond am un flwyddyn ariannol ar y tro y bydd yr arian yn cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.

Dyraniad fesul awdurdod lleol 

£24,520,120

Conwy

£25,64,958

Dinbych

£13,102,933

Fflint

£24,423,747

Gwynedd

£16,081,937

Ynys Môn

£22,684,205

Wrecsam

Cyflawni'r UKSPF yn Ngogledd Cymru

Bydd Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weinyddu'r UKSPF. Fodd bynnag, bydd pob penderfyniad ariannu yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.

Awdurdodau Lleol fydd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol neu fwy. Bydd pob ardal yn penderfynu a ydynt am gefnogi cais neu ddim.

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i’r afael ag un, neu fwy, o’r 53 ymyriadau ar

Rhaid prosiectau hefyd gyflawni un neu fwy o'r allbynnau a'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Dewis prosiectau

Bydd pob awdurdod lleol yn penderfynu sut y maent yn dymuno dewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth UKSPF. Fodd bynnag, bydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:

  • alinio cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth yr UKSPF;
  • allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
  • ychwaneged ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
  • y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu'r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
  • aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.

Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi'r UKSPF.

Strategaethau a chynlluniau rhanbarthol

Mersey-Dee-Area-Prospectus.pdf (dolen allanol - Saesneg yn unig)

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngogledd Cymru yn dilyn proses dau gam:

Cam 1: cyflwyno cais prosiect amlinellol

Cam 2: cyflwyno cais prosiect manwl

Bydd Awdurdodau Lleol yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2.

  • Ystyriwch gymhwysedd eich cynnig drwy adolygu ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau'r UKSPF a’i aliniad ag anghenion a dyheadau’r ardal/ardaloedd yr ydych yn dymuno gweithredu ynddynt. 
  • Darllenwch y canllawiau ar gyfer cyflwyno cais prosiect amlinellol cam 1 a chasglwch yr holl wybodaeth sy'n ofynnol drwy adolygu’r fersiwn all-lein o'r ffurflen gais cam 1. (Darperir y fersiwn all-lein fel dogfen y gellir ei golygu i’ch helpu i baratoi).
  • Defnyddiwch y ddolen isod i gwblhau a chyflwyno eich cais prosiect amlinellol cam 1 trwy y porth ar-lein rhanbarthol cyn hanner dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 (noder mai dim ond ceisiadau a gyflwynir drwy'r porth ar-lein fydd yn cael eu hystyried).

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau fydd:

  1. Bydd y cais yn cael ei werthuso gan y tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin lleol perthnasol (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol yn unig) neu dîm rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol).
  2. Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
  3. Bydd y Panel Cynghori Lleol (neu Baneli yn achos prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol) yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i'r Awdurdod / Awdurdodau Lleol.
  4. Awdurdod / Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau y maent am eu cefnogi.
  5. Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
  6. Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2.
  • Cyflwynwch eich cais prosiect manwl cam 2 trwy ein porth ar-lein. (Bydd y ddolen i'r porth yn cael ei e-bostio atoch chi.)
  • Wedi i'r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; bydd asesiadau pellach a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
  • Awdurdod Lleol / Awdurdodau yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais.
  • Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Awdurdod / Awdurdodau Lleol.

Bydd yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn amrywio yn ôl y broses / trefn bob Awdurdod Lleol. Mae gwybodaeth am yr amserlen a ragwelir ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gael ar eu gwefan.

  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno'u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024, er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.
  • O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Awdurdodau Lleol yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF; mae'r Awdurdodau Lleol yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
  • I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau Awdurdodau Lleol unigol pan fydd ar gael.
  • Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i wariant y tu hwnt i’r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
  • Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
  • Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn:

https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime

  • O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy’n ymgeisio
  • Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi'r awdurdod(au) lleol i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Gwynedd

Cysylltwch â'r awdurdodau lleol am ragor o wybodaeth

neu cysylltwch â'r Tîm Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Cyngor Gwynedd yw corff arweiniol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru ar ran awdurdodau lleol y rhanbarth.